Rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf yn cyrraedd carreg filltir o gynnig miliwn o lefydd
Summer holiday Bwyd a Hwyl Food and Fun programme reaches one million places
Yn ystod yr haf eleni, dechreuodd y Rhaglen Bwyd a Hwyl ar ei hail ddegawd gan ddathlu'r garreg filltir bwysig o gynnig miliwn o leoedd, yn darparu brecwast a chinio maethlon ynghyd â rhaglen weithgareddau ddiddorol i ddysgwyr yn ystod gwyliau'r haf.
Mae'r hyn a gychwynnodd fel prosiect peilot o dan arweiniad Cyngor Caerdydd wedi tyfu i fod yn Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf genedlaethol, a ddarperir mewn ysgolion ledled Cymru ac sy'n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Yr haf hwn, roedd y cynlluniau yn mynd rhagddynt unwaith eto ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol, gyda 384 o ysgolion yn cymryd rhan a dros 16,000 o leoedd ar gael bob dydd. Gyda chefnogaeth ariannol o £5.85 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn hyrwyddo byw'n iach, yn gwella lles dysgwyr, yn cryfhau'r berthynas rhwng teuluoedd, ysgolion a chymunedau, ac yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at brofiadau cadarnhaol drwy gydol gwyliau'r haf. Cynhelir gweithgareddau a darpariaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae llwyddiant parhaus y rhaglen yn dystiolaeth gref o ymrwymiad di-flino timau awdurdodau lleol, staff ysgolion a sefydliadau partner sy'n cydweithio bob haf i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
I ddathlu'r garreg filltir hon, bu Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn ymweld ag Ysgol Gynradd Blenheim Road.
Roedd thema eleni, sef Chwedlau, yn gwahodd dysgwyr i gychwyn ar daith i chwilio am darian, gan ysbrydoli haf o greadigrwydd, darganfyddiadau ac antur. Bu'r dysgwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cyfoethogi profiadau a oedd yn adlewyrchu arwyr lleol a chenedlaethol, rhai chwedlonol a rhai hanesyddol, ddoe a heddiw
Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: : “Diolch i waith caled y gweithlu addysg ac awdurdodau lleol yn creu rhaglen ddiddorol i ddysgwyr, mae'r Rhaglen Bwyd a Hwyl wedi cynnig miliwn o leoedd.
"Mae'r rhaglen Bwyd a Hwyl yn cynnig llawer o fanteision, mae'n helpu i fagu hyder, yn cefnogi lles ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar bethau newydd a threulio amser gyda ffrindiau yn ystod gwyliau'r haf, mewn lleoliad sy'n gyfarwydd iddyn nhw.
Yn ystod fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, roedd effaith y rhaglen ar ddysgwyr yn amlwg. Roedden nhw'n mwynhau mas draw."
"Roedd y ffocws ar lythrennedd bwyd yn galonogol iawn, heb sôn am y toreth o gyfleoedd gwirfoddoli mae'r rhaglen yn eu cynnig i bobl ifanc yn leol, i weithio gydag arweinwyr ieuenctid a chwarae profiadol a dysgu ganddynt."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros addysg:
"Rydym yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog Cabinet i Blenheim Road i weld y gwahaniaeth y mae Bwyd a Hwyl yn ei wneud i blant a theuluoedd. Mae prydau iach, gweithgareddau hwyliog, a chyfleoedd i ddysgu a chymdeithasu yn helpu plant i ffynnu yn ystod gwyliau'r ysgol, tra'n lleddfu'r pwysau ar y gyllidebau teuluol, ac yn cefnogi plant i fod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.
"Mae darparu miliwn o leoedd wedi'u hariannu dros yr 11 mlynedd diwethaf yn garreg filltir ryfeddol. Mae'n adlewyrchu ymroddiad cynghorau, ysgolion a'u partneriaid ledled Cymru, ac rydym yn falch gael cydweithio â Llywodraeth Cymru i roi'r cyfleoedd gwerthfawr hyn i hyd yn oed i fwy o blant."