English icon English
Esgol3-2

Rhaglen e-sgol i'w hehangu i Gymru gyfan

E-sgol programme to be expanded to all of Wales

Bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu e-sgol, y rhaglen sy'n galluogi myfyrwyr TGAU a Safon Uwch i ymuno â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill drwy gyswllt fideo, i bob rhan o Gymru o fis Medi 2023.

Lansiwyd E-sgol yng Ngheredigion yn 2018, gyda'r nod o ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ôl-14 ac ôl-16 astudio cyrsiau na fyddent ar gael iddynt fel arall a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio pynciau sydd fel arfer yn denu niferoedd is o fyfyrwyr.

Crëwyd y rhaglen i gynyddu nifer yr opsiynau TGAU a Safon Uwch/Uwch Gyfrannol sydd ar gael i ddisgyblion, yn enwedig i'r rhai mewn ysgolion gwledig llai, gan ehangu mynediad at ystod fwy o bynciau.

Mae E-sgol hefyd yn anelu at ehangu'r pynciau sydd ar gael i'w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, mae 28 o bynciau wedi cael eu haddysgu, i dros 350 o ddisgyblion, drwy e-sgol. Mae gwersi ar gael mewn ystod eang o bynciau, gan gynnwys Troseddeg, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.

I gefnogi'r ehangu, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer e-sgol i £600,000 yn y flwyddyn ariannol hon, o £350,000 y llynedd.

Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd e-sgol Gyrsiau Carlam, sesiynau adolygu ar ôl ysgol i gefnogi disgyblion ledled Cymru yn dilyn y tarfu a achoswyd gan Covid-19. Defnyddiwyd E-sgol hefyd i greu partneriaeth rhwng ysgol uwchradd ac uned cyfeirio disgyblion, i gynnig ystod ehangach o bynciau i ddysgwyr yn yr uned.

Bydd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, yn annerch y Gynhadledd E-sgol flynyddol yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd Jeremy Miles:

"Mae e-sgol yn enghraifft wych o sut y gallwn fanteisio ar dechnoleg ddigidol i wella addysg. Drwy ehangu'r opsiynau astudio ar gyfer dysgwyr TGAU a Safon Uwch, mae e-sgol yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio pynciau cyffrous na fyddent wedi bod ar gael mewn llawer o ysgolion yn y gorffennol.

"Ar ôl dechrau fel prosiect peilot mewn tair ysgol yn unig yn 2018, mae'r rhaglen yn enghraifft wych o sut y gellir datblygu prosiect peilot llwyddiannus er budd pob dysgwr yng Nghymru. Mae e-sgol o fudd i ddisgyblion mewn ardaloedd gwledig yn arbennig a dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

"Rwy'n falch iawn o gynyddu'r cyllid ar gyfer e-sgol i £600,0000 er mwyn ehangu'r cynllun a darparu mwy o ddewis o bynciau i ddysgwyr ledled Cymru o fis Medi nesaf."

Nodiadau i olygyddion

Am geisiau cyfweliadau, neu wybodaeth bellach, cysylltwch a Matthew Morris. 

Gwefan e-sgol: Hafan | e-sgol