
Rhaglen gynhwysfawr o godi adeiladau ysgol newydd wedi'i chwblhau
Major programme of new school buildings delivered
Ers 2014, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi elwa ar fuddsoddiad enfawr mewn adeiladau newydd ar gyfer ysgolion a cholegau, gyda £3.7bn wedi'i fuddsoddi mewn dros 330 o brosiectau.
Mae'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn darparu adeiladau modern, addas i'r diben, wedi'u cynllunio i addysgu'r genhedlaeth ddigidol.
Ar ymweliad ag Ysgol Llyn y Forwyn, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, â dysgwyr a staff yn eu hysgol newydd sbon, sydd wedi'i lleoli ar hen safle Ffatri Chubb yng Nglynrhedynog, Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ysgol gynradd newydd, a agorodd yn gynharach eleni, yn elwa ar feithrinfa Cylch Meithrin â lle i 30, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, meysydd parcio ac ardaloedd pwrpasol i'r rhai sy'n cyrraedd yr ysgol ar droed neu ar feic.
Dywedodd Reevah, sy’n 10 oed ac yn ddisgybl blwyddyn 6 yn yr ysgol:
"Gan fod cymaint o le, mae dysgu yma’n well o lawer. Mae’r iard wedi bod o fudd i ni, rydym yn gallu chwarae llawer mwy o gemau.
"Mae pobl i weld yn llawer hapusach ac mae pawb yn sicr yn fwy positif am ddysgu"
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle:
"Rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae'r buddsoddiad hwn o £3.7 biliwn yn trawsnewid addysg ym mhob cwr o Gymru. Mae'r adeiladau modern, cynaliadwy hyn nid yn unig yn codi safonau ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad - maen nhw'n creu seilwaith addysg sy'n wirioneddol o'r radd flaenaf ac yn destun balchder cenedlaethol.
"Mae ysgolion wrth wraidd ein cymunedau. Rydym yn uchelgeisiol yng Nghymru o ran sut rydym yn mynd i'r afael â chodi adeiladau newydd newydd ac ailwampio eraill, gan ei gwneud yn bosibl i'r ffordd y maen nhw wedi'u dylunio wneud cyfraniad cadarnhaol at ddysgwyr a staff, cymunedau lleol a'r amgylchedd naturiol."
Mae'r buddsoddiad hwn mewn ysgolion a cholegau hefyd o fudd i'r gymuned ehangach drwy ddarparu swyddi a phrentisiaethau a rhoi hwb i economi Cymru, yn enwedig yn y sector adeiladu.
Mae cynaliadwyedd wedi bod yn ffocws ers i'r rhaglen ddechrau yn 2014. Yn 2022, arweiniodd y ffordd trwy orfodi pob prosiect mawr i gydymffurfio â charbon sero net.
Mae'r cyllid yn parhau dros y naw mlynedd nesaf gyda 316 o brosiectau adeiladu newydd yn cael eu datblygu, sy'n cynrychioli cyfanswm o £5.4 biliwn o fuddsoddiad (gan gynnwys cyfraniadau partneriaid cyflenwi).
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Yn 2022 Ysgol Gynradd South Point ger y Barri oedd yr ysgol Carbon Sero Net gyntaf i agor yng Nghymru
- Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr oedd yr ysgol Carbon Sero Net gyntaf i gyflenwi trydan dros ben i ysbyty cyfagos (Ysbyty'r Tywysog Siarl)
- Gwthiodd yr Her Ysgolion Cynaliadwy ffiniau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys rhoi cyfle i ddisgyblion ddylunio'u hadeiladau ysgol newydd. Yr ysgolion buddugol oedd Ysgol a Chanolfan Gymunedol y Bontnewydd yng Ngwynedd, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan ym Mhort Talbot ac ysgol gymunedol Glyn-Coch yn Rhondda Cynon Taf
- Mae £60 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn 800 o brosiectau i gefnogi mynediad at addysg i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gyda £750 miliwn arall wedi'i nodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol
- Mae £58 miliwn wedi darparu 128 o brosiectau Ysgolion Bro dros y tair blynedd diwethaf, gyda £20 miliwn arall ar y gweill ar gyfer 2025/26
- Buddsoddwyd £67 miliwn hyd yma mewn 49 o brosiectau ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan gefnogi'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.