English icon English
18-4-24-WG-EDU-107A0150 (1)-2

Rhaglen i hybu cyrhaeddiad mewn ysgolion yn parhau am ail gyfnod

Programme to boost attainment in schools continued for a second phase.

Bydd cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad, sydd wedi ei greu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr, yn cael ei estyn i ail gyfnod er mwyn codi safonau mewn ysgolion ymhellach.

Roedd cyfnod peilot y prosiect yn dangos bod y defnydd o weithio ar y cyd, mentora ysgolion partner a rhannu arferion arloesol wedi cael effaith gadarnhaol ar wella'r profiadau addysgol i ddysgwyr sy'n wynebu anfantais.

Nododd ysgolion a gymerodd ran yn y cynllun peilot eu bod wedi gweld gwelliant trwy arweinyddiaeth a datblygiad Addysgu a Dysgu o ansawdd uchel, mwy o hyder o fewn timau arweinyddiaeth a strategaethau sy'n mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Bydd Cam Dau yn dechrau ym mis Medi, a bydd rhagor o ysgolion partner yn cael eu recriwtio. Yn ystod yr ail gam bydd pob Pencampwr Cyrhaeddiad yn cael ei baru ag ysgolion partner ychwanegol i roi mwy o gyfle i ddysgu a datblygu gwybodaeth ac arferion gorau.

Mae’r Pencampwyr Cyrhaeddiad a benodwyd wedi dangos cynnydd cyson wrth fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn eu hysgolion. Maent yn cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion ac yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch cyrhaeddiad addysgol.

Bydd ehangu gwaith y Pencampwyr Cyrhaeddiad hefyd yn cyfrannu at waith y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion, a fydd yn adeiladu ar rwydweithiau cymheiriaid a chymorth cydweithio lleol i wella safonau ysgolion.  

Yn gynharach y mis hwn, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg â rhai o’r Pencampwyr Cyrhaeddiad i glywed yn uniongyrchol sut roedd y rhaglen yn helpu i wella cyrhaeddiad addysgol, pa ddulliau oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf a beth oedd y prif rwystrau rhag gwella cyrhaeddiad. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwelliannau parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae hon yn enghraifft wych o'n hymrwymiad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Trwy ddod ag arweinwyr ac ysgolion ynghyd ledled Cymru, gallwn ni weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar ein pobl ifanc, ac yn sgil hynny gwella’r canlyniad ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. 

"Rydyn ni’n canolbwyntio ar welliant parhaus mewn ysgolion a bydd y Pencampwyr Cyrhaeddiad, ochr yn ochr â ffocws ar sgiliau hanfodol llythrennedd a rhifedd, a'r Cwricwlwm i Gymru, yn helpu i godi safonau a dyheadau. Hoffwn i ddiolch i'n holl Bencampwyr Cyrhaeddiad am eu cyfraniadau hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf i adeiladu ar ganfyddiadau cadarnhaol y rhaglen beilot."

Dywedodd Innes Robinson, Pencampwr Cyrhaeddiad, a Phennaeth Gweithredol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore:

"Roedd y cynllun peilot yn gyfle amhrisiadwy i rannu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth sydd â'r potensial i leihau'r bwlch cyrhaeddiad. Cydweithiodd Ysgol Uwchradd Whitmore ac Ysgol Bryn Alyn yn agos â’i gilydd i weithredu dull addysgu uniongyrchol a dull ar gyfer addysgu gallu cymysg sydd wedi profi i gael effaith gadarnhaol ar gau'r bwlch. Mae'r ddwy ysgol yn edrych ymlaen at y cyfle i ehangu'r rhaglen."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • The National Academy for Educational Leadership (NAEL), who deliver the programme on behalf of Welsh Government,