English icon English

Rhaglen Industry HBO / BBC yn rhoi hwb i sgiliau yn sector sgrin Cymru

Hit HBO / BBC drama Industry brings skills boost to Welsh screen sector

Mae'r gyfres ddiweddaraf o sioe deledu boblogaidd fyd-eang, Industry, sy'n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth, dilyniant gyrfa ac uwchsgilio i sector teledu Cymru.

Mae Cyfres 4 o Industry, sy'n cael ei darlledu ar BBC yn y DU, yn cael ei gynhyrchu unwaith eto gan gwmni cynhyrchu o Gymru, Bad Wolf, y tro hwn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol fel rhan o gytundeb pedair blynedd rhwng y ddwy.

Fel rhan o delerau'r cytundeb, mae Bad Wolf, drwy Screen Alliance Wales, yn darparu hyfforddiant ar y set a phrofiadau cysgodi gwaith i bobl sy'n ymuno â'r diwydiant yn ogystal â chyfleoedd uwchsgilio i bobl sy'n awyddus i symud ymlaen â'u gyrfaoedd.

Mae Industry yn dilyn bywydau grŵp o fancwyr ifanc yn Pierpoint & Co, Llundain. Yn serennu mae Marisa Abela (a enillodd Wobr Actores Orau Gwobrau Teledu BAFTA am ei pherfformiad yng nghyfres 3 yn gynharach yr wythnos hon), Myha'la, a Kit Harington, mae Cyfres 4 hefyd yn cynnwys aelodau cast newydd gan gynnwys seren Stranger Things, Charlie Heaton, a Max Minghella o The Social Network a The Handmaid's Tale.

Mae Caerdydd unwaith eto yn dirprwyo am Llundain, gan arddangos ei hyblygrwydd fel lleoliad ffilmio yn ogystal â'r cyflenwad parod o griw cynhyrchu talentog yng Nghymru. Mae'r prifddinas hefyd wedi cael ei thrawsnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddinas ddienw yn yr Unol Daleithiau  ar gyfer ffilm Netflix, Havoc, a Rhydychen ar gyfer His Dark Materials gan HBO / BBC / Bad Wolf. 

Mae'r cytundeb pedair blynedd rhwng Bad Wolf a Cymru Greadigol yn helpu i sbarduno twf pellach yn niwydiant teledu ffyniannus Cymru ac yn ymrwymo Bad Wolf i isafswm gwariant yng Nghymru dros y cyfnod. Bydd hefyd yn darparu o leiaf 42 o leoliadau i hyfforddeion â thâl ar lefel mynediad a cyfleoedd uwchsgilio ar gyfer criwiau yng Nghymru ar gynyrchiadau o'r radd flaenaf.

Ymwelodd y Gweinidog Sgiliau a Diwylliant, Jack Sargeant, â'r set yr wythnos hon a chwrdd â'r cast, y criw a'r hyfforddeion sy'n gweithio ar y sioe. Dywedodd:

"Wrth i'r Wythnos Dysgu yn y Gwaith ddod i ben, mae wedi bod yn bleser clywed am y cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr y mae Charlie, Jacob, Rosie a Robyn wedi'u profi yn gweithio ar Industry 4.

"Rydym yn hynod falch o'n sector ffilm a theledu yng Nghymru ac mae cyfleoedd fel hyn yn datblygu ein talent yma ymhellach ac yn cadarnhau enw da Cymru fel lleoliad ffilmio o'r radd flaenaf gyda chriwiau medrus sy'n gallu creu cynyrchiadau o'r radd flaenaf."

Mae Jacob Cook yn Hyfforddai Graffeg ar set Industry 4, meddai:

"Astudiais ddylunio graffeg yn y brifysgol, ond doedd gen i ddim syniad sut i dorri i mewn i'r diwydiant Ffilm a Theledu. Roeddwn i'n gweithio mewn archfarchnad ar y pryd i ddweud y gwir. Es i ffair yrfaoedd un diwrnod lle cwrddais â rhywun o Screen Alliance Wales, a phythefnos yn ddiweddarach cododd y cyfle hwn ac roeddwn i'n ddigon ffodus i gael y swydd!

"Mae'r rôl yn cwmpasu unrhyw beth a phopeth sy'n gysylltiedig â graffeg neu ddylunio, fel set-dressing a gwneud pethau y tu ôl i'r llenni. Mae'n amgylchedd mor gyffrous sydd wedi caniatáu i mi ddatblygu fy set sgiliau go iawn.

"Mae'r diwydiant sgrîn yng Nghymru yn rhoi Cymru ar y map. Does dim angen i chi fynd i Hollywood i gael gyrfa lwyddiannus pan allwch chi ddod i Sblot!"

Mae Rosie Berry, yn Hyfforddai Gwisgoedd Torf ar set Industry 4, dywedodd:

"Ddeng mlynedd yn ôl, fe wnes i fy ngradd mewn gwisgoedd ac adeiladu ac mae gen i radd meistr mewn dylunio gwisgoedd. Nawr bod fy mhlant yn hŷn, penderfynais fy mod i eisiau dilyn gyrfa mewn Ffilm a Theledu.

"Mae gweithio ar Industry yn anhygoel. Rydw i’n gweithio yn y stiwdio ac yn cynorthwyo'r ffitwyr sy'n gwisgo'r actorion cefnogol. Gallwn fod yn gweithio ar hyd at 40 ffitiad bob dydd – weithiau maen nhw angen eu gwirio unwaith, ar ddyddiau eraill gallai fod yn dri neu bedwar o weithiau.

"Mae mor bwysig bod y lleoliadau i hyfforddeion ar gael – dyma oedd fy ffordd i mewn i’r diwydiant.

"Nawr rwy'n teimlo'n barod i gamu ymlaen a gwneud cais am swydd iau, gan fy mod i'n gwybod ei bod yn bwysig dechrau o'r dechrau a dysgu cymaint â phosibl."