Rhaglen newydd i greu cyfleoedd gwaith all newid bywydau pobl 16-18 oed yng Nghymru
New jobs programme to create life changing opportunities for 16-18 year olds in Wales
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen hyblyg newydd i helpu pobl ifanc 16-18 oed i wireddu’u potensial ac i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith.
Nod y rhaglen Twf Swyddi Cymru + Mwy yw creu cyfleoedd all newid bywydau’r rheini nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Daw’n rhan sylfaenol hefyd o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc sy’n anelu at sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru oherwydd y coronafeirws.
Bydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn creu pecyn personol o gymorth ac yn ymgorffori’r gorau o’r rhaglen Twf Swyddi Cymru a’r rhaglenni Hyfforddeiaethau a oedd yn llwyddiannus iawn.
Caiff y rhaglen ei lansio yn 2022 i helpu pobl 16-18 oed trwy gynnig cyngor ac arweiniad gyrfaol diduedd a manwl ar ôl cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn trwy wasanaeth Cymru’n Gweithio.
Bydd pobl ifanc yn gallu manteisio ar wasanaethau mentora, cyngor, hyfforddiant ac addysg er mwyn gallu gwneud y dewisiadau gorau wrth chwilio am hyfforddiant neu waith teg neu wrth ddechrau busnes. Bydd y rhaglen yn cynnwys cynnig cyfleoedd gwaith penodol gyda chymhorthdal o 50% o’r isafswm cyflog cenedlaethol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:
“Rydyn ni am roi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu potensial. Nod Twf Swyddi Cymru + yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc mewn byd sy’n prysur newid, beth bynnag eu gallu, eu cefndir, eu rhyw neu eu hethnigrwydd.
“Mae Twf Swyddi Cymru + yn adeiladu ar ein rhaglenni hyfforddeiaeth a rhaglenni Twf Swyddi Cymru, gan ddatblygu elfennau cryfaf y ddau. Mae pobl ifanc, cyflogwyr a chontractwyr wedi ein helpu i lywio’r pecyn cymorth newydd hwn â newidiadau sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gwasanaeth gorau posibl.
“Mae Twf Swyddi Cymru + yn gam pwysig yn y broses o ddatblygu ein gwarant uchelgeisiol i bobl ifanc, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc tuag at ddyfodol mwy disglair.”
Mae'r broses gaffael ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ bellach wedi'i chwblhau, ac mae llythyrau dyfarnu wedi'u rhoi i'r contractwyr llwyddiannus.