English icon English
Trees

Rhagor o achosion o’r clefyd coed Phytophthora pluvialis wedi’u darganfod yng Nghymru

More cases of tree disease Phytophthora pluvialis discovered in Wales

Mae canfyddiadau newydd o’r pathogen hwn sy’n debyg i ffwng, ac y gwyddys ei fod yn effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, wedi eu canfod yng Nghymru.

Mae Phytophthora pluvialis yn gallu effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydd Douglas a sawl rhywogaeth o binwydd.

Yn dilyn canfyddiadau yn Nghoedwig Dyfi ac yng Nghrychan, Llanymddyfri, mae achosion newydd wedi’u cadarnhau yn Nhal-y-bont ar Wysg, Mynydd Du a Maesyfed.

Mae’r clefyd bellach wedi effeithio ar saith safle yng Nghymru.

Mae canllaw symptomau wedi’i lunio sy’n darparu rhagor o wybodaeth am Phytophthora pluvialis .

Anogir pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n gweld achos o’r clefyd drwy borthol ar-lein TreeAlert.

Bydd achosion pellach yng Nghymru yn cael eu cofnodi ar-lein bellach a gellir eu gweld yn: Phytophthora pluvialis | LLYW.CYMRU