English icon English

Rhagor o grantiau’n agor ar gyfer prosiectau cymunedol Cymraeg

More grants open for Welsh language community projects

Wrth i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd gael ei chynnal ym Moduan, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn annog prosiectau cymunedol newydd i wneud cais am gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am grantiau bach i helpu i sefydlu cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai, neu eu cynorthwyo i dyfu. Grantiau Bach Prosiect Perthyn yw enw’r cyllid ac mae’n rhan o’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Nod y grant yw helpu i greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.

Hwn yw ail gylch y grant. Llwyddodd 21 o brosiectau i gael cyllid yn y cylch cyntaf, gan gynnwys pedwar sy’n agos at faes yr Eisteddfod yng Ngwynedd:

  • Cafodd Menter y Plu £8,000 i ddatblygu tafarn enwog yn Llanystumdwy a brynwyd ganddynt i gynnal digwyddiadau cymunedol.
  • Rhoddwyd £12,000 i Fro’r Eifl, grŵp sy’n gweithio i ddatblygu cynllun tai sy’n cael ei arwain gan y gymuned.
  • Dyrannwyd £12,000 i Felin Daron i sefydlu a chefnogi melin ddŵr hanesyddol gradd II Aberdaron i addysgu pobl am dreftadaeth yr ardal a darparu llety i bobl leol yn yr eiddo.
  • Cafodd Menter Rabar, Abersoch grant o £12,430. Sefydlwyd y fenter ym mis Chwefror 2023 i gael prydles ar hen ysgol Abersoch, neu ei phrynu, oddi wrth Gyngor Gwynedd. Y bwriad yw ailwampio’r hen ysgol a’i defnyddio fel canolfan yng nghanol y pentref, i’w rhedeg gan y gymuned er budd y gymuned.

Bydd yn bosibl gwneud cais ar gyfer yr ail gylch cyllid o 12:30pm ddydd Mawrth 8 Awst. Mae ffurflen gais a chanllawiau ar gael yma.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae prosiectau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau ni. Ry’n ni eisoes yn gweld cymunedau ger maes yr Eisteddfod yn gweithio i gyflawni prosiectau arloesol. Rwy’n edrych ymlaen at weld llawer o greadigrwydd, dysgu am syniadau a chlywed am brofiadau pobl yr wythnos yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.  

“Ry’n ni wedi gweld llawer o syniadau creadigol sut mae cymunedau yn cefnogi’r Gymraeg ar lawr gwlad ac wedi gweld hefyd yr effaith y gall swm cymharol fach o arian ei chael, a’r gwahaniaeth mae hynny’n ei wneud. Dyna pam rwy’n falch o gyhoeddi bod cyfle arall i grwpiau cymunedol wneud cais am gefnogaeth. Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n cynnal prosiect a fydd yn cefnogi’r Gymraeg yn eich cymuned ac yn barod i’r prosiect gymryd y cam nesaf, fe fyddwn i’n eich annog chi i wneud cais am grant bach Prosiect Perthyn.”

Cwmpas fydd yn gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas: “Wedi llwyddiant cynllun peilot y grant, mae Cwmpas yn falch dros ben o gael gweinyddu ail gylch o geisiadau.  Mae’r grantiau wedi gwneud y fath wahaniaeth mewn cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi a  byddant yn gwneud hynny eto. Mae’r grantiau refeniw yn helpu i feithrin gallu lleol a chyflymu syniadau cymunedau am gwmnïau, mentrau cydweithredol a phrosiectau tai fforddiadwy newydd.”