“Rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd”, wrth i wasanaethau wynebu mwy o alw nag erioed
“We must all do what we can to relieve pressure on the NHS”, as services face record demand
Wrth i ddyddiau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd agosáu, mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi annog pobl i wneud yr hyn a allant i leddfu’r pwysau ar y GIG.
Y Flwyddyn Newydd yw’r amser prysuraf o’r flwyddyn i’r GIG fel arfer, yn enwedig mewn adrannau achosion brys. Mae’r byrddau iechyd eisoes wedi adrodd eu bod yn gofalu am fwy o gleifion sy'n ddifrifol wael nag arfer eleni.
Mae’r byrddau iechyd wedi gofyn i bobl beidio ag ymweld â phobl yn yr ysbyty os oes ganddyn nhw symptomau tebyg i’r ffliw, er mwyn diogelu cleifion mewn ysbytai. Mae'r GIG wedi gweld cynnydd sydyn yn yr achosion wedi’u cadarnhau o’r ffliw, covid a heintiau anadlol feirol eraill yn cael eu derbyn i ysbytai ym mis Rhagfyr. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau ymweld ar gael ar wefannau neu ar gyfryngau cymdeithasol y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd.
Mae llinell gymorth 111 GIG Cymru wedi profi galw digynsail hefyd, gyda’r nifer uchaf erioed o alwadau’n cael eu derbyn mewn un diwrnod ar ddydd Mawrth 27ain Rhagfyr. Maent wedi gofyn i bobl sy’n sâl edrych ar wefan GIG 111 Cymru, sy’n cynnwys gwiriwr symptomau, cyn ffonio 111, a pheidio â mynd i adrannau achosion brys oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol.
Gofynnir i bobl ffonio 111 dim ond os oes ganddynt symptomau brys sydd angen triniaeth y diwrnod hwnnw. Mae Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sy'n rhedeg y wefan 111 a'r llinell gymorth, wedi cynghori y gallai galwyr brofi amseroedd aros hwy nag arfer, sawl awr o bosibl.
Cynghorir cleifion sydd angen presgripsiynau amlroddadwy i ymweld â fferyllfa gymunedol pan fyddant ar agor nesaf. Gall fferyllfeydd gyflenwi hyd at 30 diwrnod o’r rhan fwyaf o feddyginiaethau amlroddadwy mewn argyfwng heb bresgripsiwn. Mae manylion y fferyllfeydd sydd ar agor yng Nghymru dros ŵyl y banc ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.
Dywedodd Judith Paget:
“Y gaeaf yma mae ein GIG yn wynebu galw fel na welsom ei debyg erioed o’r blaen. Mae’n gwbl hanfodol felly ein bod ni i gyd yn meddwl yn ofalus am yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel unigolion i leddfu’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd.
“Mae ein Hadrannau Achosion Brys yn arbennig yno i helpu’r rhai sydd angen y gofal mwyaf brys yn yr amser byrraf posibl, felly ystyriwch a oes angen i chi fynychu, neu a oes opsiynau eraill, fel edrych ar wefan GIG 111 Cymru.
“Fe allwn ni hefyd baratoi ar gyfer mân salwch neu anafiadau drwy sicrhau bod gennym ni feddyginiaethau hanfodol ar gael yn ein cartrefi, fel paracetamol, a phecyn cymorth cyntaf, pe bai arnom ei angen.
“Diolch hefyd i deuluoedd sydd wedi cefnogi rhyddhau eu hanwyliaid fel y gallent fod gartref ar gyfer y Nadolig. Mae cefnogaeth barhaus teuluoedd yn y ffordd yma’n ein helpu ni’n fawr i sicrhau bod gwelyau ysbytai’n cael eu defnyddio ar gyfer pobl sydd angen y gofal arbenigol sydd ond ar gael yn ein hysbytai ni.
“Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae mewn amddiffyn ein gwasanaeth iechyd, felly rhaid i ni i gyd feddwl yn ofalus a gwneud yr hyn allwn ni i gefnogi ein nyrsys, y meddygon a holl staff y GIG y gaeaf yma.”