Rhoi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan Fesurau Arbennig wrth i’r bwrdd gamu i’r naill ochr
Betsi Cadwaladr University Health Board put into Special Measures with board stepping aside
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei roi o dan fesurau arbennig yn sgil pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant.
Mae Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd wedi cytuno i gamu i’r naill ochr. Bydd aelodau annibynnol newydd yn cael eu penodi i’r Bwrdd i arwain y sefydliad wrth iddo barhau i adfer ei wasanaethau yn dilyn y pandemig.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
“Mae gen i bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd a dw i ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dw i’n ei ddisgwyl ar gyfer pobl y Gogledd. Dw i felly wedi penderfynu cymryd camau i unioni hyn.
“Dw i wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd fy mod yn rhoi’r sefydliad yn ôl o dan Fesurau Arbennig, a hynny ar unwaith. Mae’r penderfyniad sylweddol hwn yn cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio. Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy’n ei atal rhag gwella.
“Dw i’n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn. Serch hynny, nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.”
Mae’r Gweinidog wedi gwneud nifer o benodiadau uniongyrchol i’r Bwrdd i sicrhau sefydlogrwydd. Bydd y tîm anweithredol yn cael ei arwain gan Dyfed Edwards, fel Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Bydd y Cadeirydd newydd yn canolbwyntio ar adnewyddu arweinyddiaeth a diwylliant y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod y gweithlu’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i bobl y Gogledd.
Bydd Dyfed yn cael ei gefnogi gan Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones fel aelodau annibynnol interim o’r Bwrdd.
Bydd penodiadau uniongyrchol pellach yn cael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf. Bydd ymgyrch yn dechrau nes ymlaen eleni i recriwtio aelodau annibynnol newydd o’r Bwrdd a fydd yn tywys y sefydliad y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol hwn o sefydlogi.
Bydd penodi’r prif weithredwr parhaol yn allweddol i ddatblygu a meithrin sefydliad cynaliadwy. Mae proses recriwtio’r swydd honno ar fin dechrau.
Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn cael ei gefnogi gan dîm ymyrraeth a chymorth.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
“Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cael gofal da gan y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd ond mae yna gryn dipyn o anghysondeb o ran diogelwch, perfformiad ac ansawdd ar draws y rhanbarth. Bydd y bwrdd newydd yn canolbwyntio ar unioni’r anghysondeb hwn. Er y bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig, dw i am sicrhau cleifion a chymunedau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu, yn ogystal â’r staff sy’n gweithio ynddo, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau, gyda mwy o ffocws ar ansawdd a diogelwch.”