English icon English

Rhoi prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r Pasg

Free school meals to be served up during Easter holidays.

Bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn.

Mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu diolch i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd cymwys.

Gyda'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar deuluoedd ledled Cymru, mae cyllid yn cael ei ddarparu i gynnig pryd ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at wyliau hanner tymor ddiwedd Mai, gan gynnwys yr holl wyliau'r banc yn ystod y cyfnod hwn.

Gallai teuluoedd fod yn gymwys i fanteisio ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau os ydynt yn cael unrhyw un neu ragor o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith a bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth)
  • Yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am 4 wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • Credyd Cynhwysol - rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth

Ewch i'r ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth am gael help -

Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU


Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Ni ddylai unrhyw blentyn orfod poeni am lwgu dros wyliau'r ysgol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu ehangu'r ddarpariaeth hyd at  gwyliau wyliau hanner tymor mis Mai. Rydym yn gwybod bod bwyd yn cael effaith enfawr ar allu plentyn i ganolbwyntio a lles cyffredinol plant. Rwyf am i blant a phobl ifanc allu mwynhau eu gwyliau ysgol a chymryd pwysau oddi ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda chostau byw.

"Byddwn yn annog teuluoedd i siarad â'u hawdurdod lleol i weld a ydynt yn gymwys."

 

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian:

"Pan mae drysau'r ysgol yn cau am y gwyliau, ni ddylai ein cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf ddod i ben. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu dros wyliau ysgol y Pasg a mis Mai ac i helpu teuluoedd sydd dan bwysau yn ystod yr argyfwng costau byw."