English icon English

Rhybudd y gallai toriadau i gymorth cyfreithiol greu “system gyfiawnder dwy haen”

Warning legal aid cuts risk a “two tier justice system”

Heddiw, rhybuddiodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, fod blynyddoedd o doriadau i gymorth cyfreithiol yn golygu bod y DU yn mynd yn gynyddol i gyfeiriad system gyfiawnder dwy haen.

Mewn araith i osod y cywair yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith, cyferbynnodd y toriadau dinistriol o ran cymorth cyfreithiol â’r swm cywilyddus o arian sy’n cael ei wario gan Lywodraeth y DU ar garchardai, a galwodd am ffocws mwy ar ddod o hyd i ddulliau gweithredu gwahanol ac atal pobl rhag troseddu yn y lle cyntaf.

Mae ei sylwadau yn adlais o’r hyn a ddywedodd y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd. Canfu’r Comisiwn nad yw’r system gyfiawnder yn sicrhau chwarae teg i bobl, ac argymhellodd ddiwygiadau sylweddol.

Yn ei araith i’r gynhadledd heddiw, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Yng Nghymru a gweddill y DU, rydyn ni’n mynd yn gynyddol i gyfeiriad system gyfiawnder dwy haen.

“System lle mae gan y rheini sydd â’r adnoddau angenrheidiol fynediad at y system gyfiawnder, a lle nad oes gan eraill y mynediad hwnnw, sef y tlotaf a’r mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fel rheol, ac i bob pwrpas mae’r rheini wedi’u cau allan, a’u diffyg hawliau yn gwneud iddyn nhw deimlo’n flin ac yn rhwystredig â’r system gyfiawnder a’r hyn y mae’n ei gynnig iddyn nhw.

“Does gan Lywodraeth Cymru ddim y cyllid i gamu i mewn a llenwi’r bylchau hyn yn y ddarpariaeth cymorth cyfreithiol, er, fel y mae adroddiad Thomas yn ei gydnabod, rydyn ni wedi ceisio mynd i’r afael ag o leiaf rai o’r meysydd angen mwyaf dybryd.”

Gwnaeth Llywodraeth y DU i ffwrdd â chymorth cyfreithiol o rannau eang o gyfraith sifil, a chynhelir prawf modd ar gyfer achosion troseddol er mwyn lleihau cost flynyddol cymorth cyfreithiol.

Mae Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd angen cyngor a gall helpu o ran cynrychiolaeth mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Ond nid cymorth cyfreithiol yw hyn.

Gan alw am ddull gwahanol o weithredu polisi cyfiawnder troseddol a dedfrydu, ychwanegodd y Cwnsler Cyffredinol:

“Y broblem fwyaf gyda system gyfiawnder Cymru yw nifer y bobl sy’n mynd i’r carchar, a pha mor hir y maen nhw yno. Mae’r swm y mae Llywodraeth y DU yn ei wario ar garchardai yn gywilyddus, yn enwedig yng ngoleuni degawd o doriadau mewn cymorth cyfreithiol a chyllidebau llysoedd, erlynwyr, gwasanaethau prawf a sawl elfen arall o’r system gyfiawnder.

“Pe bai gyda ni’r pŵer i bennu polisi cyfiawnder troseddol a dedfrydu, fe allen ni leihau nifer ein carcharorion a buddsoddi’r arbedion mewn opsiynau gwahanol yn lle cadw pobl yn y ddalfa, neu mewn atal pobl rhag troseddu yn y lle cyntaf.”

Mae Cynhadledd Cymru’r Gyfraith, a gynhelir yn Llyfrgell y Gyfraith yn Llysoedd y Gyfraith, Parc Cathays, yn darparu platfform i drafod datblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol yng Nghymru.