Rhyfeddodau Cymru yn y Gaeaf
The Wonders of Wales in Winter
Mae ymgyrch gan Croeso Cymru wedi bod yn cadw Cymru ar flaen ein meddyliau fel cyrchfan gwyliau drwy gydol y gaeaf – gyda llawer nawr yn mynd ar eu gwyliau cyntaf yn ystod hanner tymor Chwefror.
Mae hysbyseb teledu a digidol, a gyfarwyddwyd gan Marc Evans sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, wedi’i weld dros y gaeaf rhwng sioeau poblogaidd megis Ant & Dec’s Saturday Night Takeaway a The Masked Singer – sy’n dangos yr hyn y gallwch ei fwynhau yng Nghymru adeg hon o’r flwyddyn.
Mae ffilm Croeso Cymru Dyma’r Gaeaf Dyma Gymru yn dangos teulu yn mynd am dro o amgylch dyfroedd ysblennydd Aber Cleddau, Sir Benfro lle maent yn coginio a blasu’r cynnyrch gwyllt blasus sydd ar gael. Cafwyd ymateb da i’r hysbyseb gan elusennau nam ar y clyw am gynnwys iaith arwyddion, gan fod Nathaniel Darian, sy’n saith oed, yn fyddar.
Mae'r ffilm yn dangos pleserau cerdded a fforio bwyd yn un o rannau harddaf Cymru, lle mae'r teulu'n gwledda ar fwyd môr a gwymon, cyn dod ar draws Castell trawiadol Caeriw, ac archwilio rhyfeddodau wybrennol Awyr Dywyll enwog Cymru. Mae'r meistr-fforiwr Garry Thomas, yn ystâd Little Retreat yn Lawrenny yn rhannu ei gyfrinachau am y planhigion a'r blodau lleol i helpu teulu Nathaniel i greu cysylltiadau dwfn â'u hamgylchedd naturiol.
Dywedodd mam Nathaniel, Siobhan: "Rwy'n hoff iawn o'r syniad cynhwysol o'r hysbyseb hon, mae eisoes wedi cael cymeradwyaeth gan y gymuned fyddar gan fod cynrychiolaeth gadarnhaol o fyddardod mor bwysig. Rwy'n gwerthfawrogi'r gofal a'r sgil sydd eu hangen i ddangos hyn. Rydym yn defnyddio iaith arwyddion gartref yn ogystal ag iaith lafar i gyfathrebu â Nathaniel.
Mae hysbyseb dymhorol arall wedi ymddangos yn ystod y Chwe Gwlad, sy'n cynnwys ffrindiau sy'n chwilio am antur wrth feicio mynydd ac yn gwibio drwy fynyddoedd Gogledd Cymru yn Zip World.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:"Mae Cymru'n lle anhygoel i'w archwilio ym mhob tymor. Ein huchelgais yw hybu twristiaeth drwy ymestyn y tymor, hyrwyddo ein cenedl yn ystod cyfnodau llai prysur o'r flwyddyn a thynnu sylw at yr ardaloedd hynny sy'n dawelach – mae hyn yn golygu cadw Cymru'n weladwy drwy gydol y flwyddyn i annog gwyliau beth bynnag fo'r tymor."
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol dros ben i'r economi ymwelwyr ond mae lle i fod yn hyderus ynghylch ailadeiladu'r sector twristiaeth a lletygarwch. Canfu'r Baromedr Twristiaeth diweddaraf fod y sector wedi cael tymor prysur estynedig cyn yr hydref.
Mae tystiolaeth defnyddwyr hefyd yn dangos bod bwriad cadarnhaol i gymryd mwy o deithiau gwyliau yn ystod y 12 mis nesaf gyda theithiau'n uwch ar gyfer teithiau dros nos domestig. Dyma pam mae Croeso Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant i gadw Cymru'n weladwy, ac ar flaen ein meddyliau pan fo pobl nawr yn awyddus i wneud rhai cynlluniau gwyliau ar gyfer 2022."
Mae awyr dywyll anhygoel Cymru hefyd wedi bod yn ganolbwynt i waith marchnata Croeso Cymru. Y gaeaf yw'r amser perffaith i wneud y gorau o awyr dywyll Cymru, ac mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Awyr Dywyll gyntaf erioed Cymru. Mae rhwydwaith enfawr Cymru o dair Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a Pharciau Awyr Dywyll wedi cael eu nodi gan seryddwyr fel llefydd gorau’r byd i fynd i syllu ar y sêr, ac maent yn atyniad i lawer o ymwelwyr. Mae llawer o fusnesau o fewn y gwarchodfeydd awyr dywyll bellach yn cynnig profiadau awyr dywyll.
www.discoveryinthedark.wales/darkskieswalesweek
Nodiadau i olygyddion
Gellir dod o hyd i'r ffilmiau ar y linc yma
English - https://youtu.be/tIpViMkjdDg
Cymraeg - https://youtu.be/6Q1MT4agqQU