English icon English

"Rwyf wedi ymrwymo i newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yng Nghymru" – Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates

“I am committed to fundamentally changing the way bus services are delivered in Wales” – Transport Secretary, Ken Skates

Mae cynlluniau i newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu darparu ar draws Cymru  - i roi pobl a chymunedau'n gyntaf - yn mynd hragddyn nhw'n dda.  

Bydd y model masnachfreinio newydd yn cymryd lle'r hen drefn heb ei rheoleiddio er mwyn i weithredwyr cyhoeddus, preifat neu drydydd sector allu gwneud cais am becynnau o wasanaethau bysiau lleol. Bydd hefyd yn codi'r cyfyngiadau sydd ar hyn  bryd ar gwmnïau bysiau cyhoeddus, gan eu gwneud yn gyfartal â gweithredwyr bysiau eraill.

Bydd hyn yn creu rhwydwaith mwy integredig o wasanaethau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf a lle bydd penderfyniadau am lwybrau, amserlenni a phrisiau'n cael eu gwneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a chynghorau lleol.  

Dyma newid enfawr i'r diwydiant bysiau ac oherwydd y cymhlethdodau y bydd yn ei olygu, bydd yn cymryd amser i'w groi ar waith trwy'r wlad. Disgwylir i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf a chaiff y model masnachfraint ei gyflwyno fesul rhanbarth - gan ddechrau gyda'r De-orllewin yn 2027, y Gogledd yn 2028, y De yn 2029 a'r Canolbarth yn 2030. 

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gymryd camau i bontio'r bwlch i'r drefn fasnachfreinio a chefnogi gwasanaethau bysiau lleol hanfodol, drwy:   

  • Fuddsoddi £64m y flwyddyn ariannol hon a mwy na £250m ers dechrau'r pandemig.
  • Cyflwyno cerbydau mwy gwyrdd i leihau'r ôl troed carbon trafnidiaeth ar yr amgylchedd.
  • Gweithio gyda nifer o randdeiliaid i ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw mewn ardaloedd gwledig i helpu i gysylltu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Fflecsi a gwasanaethau TrawsCymru yn y Gorllewin a'r Sherpa yn y Gogledd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:  

"Mae cyflwyno bil bysiau, newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yng Nghymru, yw un o fy mhrif flaenoriaethau.  

"Rydyn ni'n gwybod bod bysiau'n achubiaeth i lawer o bobl i fynd i'r gwaith, i ymweld â ffrindiau a theulu ac i ddefnyddio gwasanaethau.  

"Bydd y model masnachfreinio newydd yn ein helpu i wneud defnydd gwell o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r diwydiant bysiau a bydd yn ein galluogi i ddylunio rhwydwaith sy'n gweithio i bobl a chymunedau - gan leihau tlodi trafnidiaeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal."