“Rydyn ni eisiau rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i gynllunio yng Nghymru, wedi'i ddarparu yng Nghymru, ac sy'n atebol i bobl Cymru” meddai'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper.
“We want a rail network that is designed in Wales, delivered in Wales, and accountable to the people of Wales” says Deputy Minister for Transport, Mark Hooper.
- Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am gyllid tecach a llwybr i ddatganoli llawn fel rhan o'i hymrwymiad 100 diwrnod cyntaf.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflymu'r gwelliannau rheilffyrdd yr ymrwymwyd iddynt er mwyn gwella gwasanaethau i deithwyr Cymru.
- Mae camau yn cael eu cymryd gyda Llywodraeth y DU i gryfhau dylanwad Cymru dros benderfyniadau rheilffyrdd.
Mae llwybr clir i ddatganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd sydd o fudd i deithwyr Cymru wedi'i nodi gan y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper.
Mae Cymru yn cyfrif am oddeutu 10% o rwydwaith rheilffyrdd Prydain yn ôl hyd y trac, ond dim ond 1.5% o gyfanswm buddsoddiad rheilffyrdd y DU a gafodd dros y 15 mlynedd diwethaf. Fel yr addawyd yn ei chynllun 100 diwrnod cyntaf, mae Llywodraeth Cymru bellach yn cymryd camau i newid hyn gyda thrafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid tecach, pwerau gwneud penderfyniadau cryfach, a gwasanaethau gwell i deithwyr.
Mae tri cham uniongyrchol sy'n cael eu cymryd i symud tuag at y weledigaeth hon yn cynnwys:
- gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth i gyflymu proses gyflawni gwelliannau yr ymrwymwyd iddynt, gan gynnwys y gorsafoedd Burns newydd, gwella cysylltedd a lleihau'r pwysau ar yr M4.
- ymwneud â Bil Rheilffyrdd Llywodraeth y DU i gryfhau dylanwad Cymru dros benderfyniadau rheilffyrdd er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.
- dechrau trafodaethau ar gyfer setliad cyllido teg sy'n adlewyrchu anghenion Cymru.
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud yr achos dros ddatganoli rheilffyrdd yn llawn — gan ddod â'r traciau a'r trenau at ei gilydd o dan reolaeth Cymru.
Mae'r cynllun hwn yn cefnogi'n uniongyrchol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu economi a gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
“Ers degawdau, mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef ei bod wedi methu â buddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ac yn hytrach mae wedi caniatáu iddo ddirywio. Ein huchelgais yw newid hynny — mae gennym weledigaeth o rwydwaith rheilffyrdd datganoledig, lle mae gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu cynllunio o amgylch anghenion ein pobl, ein cymunedau, a'n heconomi.
“Dylai penderfyniadau dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd gael eu gwneud yma yng Nghymru, nid yn San Steffan.
“Rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i gynllunio yng Nghymru, wedi'i ddarparu yng Nghymru, ac sy'n atebol i bobl Cymru.
“Rydyn ni'n gwybod na fydd y daith hon yn digwydd dros nos, ond mae gennym lwybr a'r penderfyniad hefyd i'w wireddu oherwydd pan fydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llwyddo, mae Cymru'n gweithio'n well.”