Sefydlu rhaglen genedlaethol yng Nghymru ar gyfer llawfeddygaeth drwy gymorth robot
National robotic assisted surgery programme to be established in Wales
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi rhaglen genedlaethol yng Nghymru ar gyfer llawfeddygaeth drwy gymorth robot, sy’n galluogi llawfeddygon i wneud triniaethau cymhleth yn fwy manwl a chyda mwy o reolaeth.
Bydd Rhwydwaith Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot, sydd wedi’i ddatblygu gan fyrddau iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moondance Cancer Initiative, yn darparu llawdriniaethau llai mewnwthiol i filoedd o gleifion canser ledled y wlad.
Mewn llawdriniaeth o’r fath, defnyddir offer llawfeddygol robotig uwch dan reolaeth llawfeddyg. Ar y dechrau bydd y driniaeth yn cael ei defnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai mathau o ganser y colon a’r rhefr, canser gastroberfeddol uchaf, canser wrolegol a chanser gynaeolegol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2 miliwn ar gyfer y rhwydwaith dros bum mlynedd, a byrddau iechyd yn darparu £13.35 miliwn dros 10 mlynedd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
“Mae Rhwydwaith Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot yn rhaglen uchelgeisiol a phwysig a fydd yn helpu i wella canlyniadau i gleifion a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Bydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ar ddefnyddio technegau llawfeddygol robotig. Bydd y gwasanaeth arloesol hwn hefyd yn annog staff arbenigol i ddod i Gymru i hyfforddi ac ymarfer.”
Caiff y driniaeth ei darparu i ddechrau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae disgwyl i’r claf cyntaf gael triniaeth ym mis Mehefin. Unwaith y bydd ar waith yn llawn, ni fydd angen i gleifion yn y Gogledd deithio i Loegr mwyach i gael llawdriniaeth drwy gymorth robot.
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gynnig y driniaeth o fis Mehefin ymlaen – gan ychwanegu at gapasiti ei robot presennol – ac mae disgwyl i fyrddau iechyd eraill ledled Cymru ddilyn yn yr un modd.
Bydd y rhaglen yn cael ei rhoi ar waith gan fyrddau iechyd mewn partneriaeth â’r cwmni technoleg feddygol, CMR Surgical, a fydd yn darparu’r cyfarpar, gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant, yn ogystal â chefnogi ymchwil ar fabwysiadu triniaethau drwy gymorth robot.
Dywedodd Jared Torkington, Clinigydd Arweiniol y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot:
“Mae datblygiadau technolegol wedi cael effaith enfawr ar lawfeddygaeth dros y degawdau diwethaf, gan leihau pa mor fewnwthiol yw triniaethau, gwella canlyniadau, a lleihau cyfnodau yn yr ysbyty. Bydd y rhaglen genedlaethol hon, sy’n manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
“Wrth i lawfeddygaeth drwy gymorth robot barhau i ddatblygu, bydd newid mwy radical fyth i’w weld dros yr 20 mlynedd nesaf, tuag at ddyfodol lle mae gofal iechyd yn amharu llai fyth ar gleifion ac yn gallu addasu i anghenion unigol cleifion yn well.”
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae maes llawfeddygaeth yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid sylweddol a fydd yn darparu buddion mawr i gleifion. Rydym nawr ar ddechrau’r cyfnod nesaf, ac o bosib’ yr un mwyaf cyffrous, yn esblygiad gofal iechyd, diolch i ddatblygiadau technolegol cyflym.”
Dywedodd Dr Mark Slack, Prif Swyddog Meddygol CMR Surgical: “Mae hwn yn gam nodedig gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd yn cynnig llawer o fuddion i lawfeddygon a chleifion gan eu galluogi i fanteisio ar dechnoleg arloesol sy’n achub bywydau. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen hon ac yn credu y bydd gwledydd o amgylch y byd yn edrych tuag at Gymru fel model arfaethedig i weithredu roboteg lawfeddygol gan ddefnyddio technoleg uwch.
“Hoffem ddiolch i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am ein dewis ni yn bartner yn y rhaglen roboteg gyffrous hon i ateb yr angen mawr am ofal llawfeddygol a chanlyniadau gwell i gleifion canser yng Nghymru.”
Dywedodd Mr Mohamed Abdulmajed, Llawfeddyg Ymgynghorol mewn Wroleg ac Oncoleg y Pelfis yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod y ddisgyblaeth lawfeddygol gyntaf i ddefnyddio roboteg i drin cleifion sydd angen llawdriniaeth fawr ar gyfer canser yn y Gogledd.
“Mae llawdriniaeth robotig yn cynnig llawer o fanteision i gleifion o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys clwyf llai, colli llai o waed, cyfnod byrrach yn yr ysbyty ac adferiad cyflymach sy’n galluogi’r claf i ddychwelyd i’w waith yn gynt.
“Hyderwn y bydd darparu llawfeddygaeth robotig yn y Gogledd yn helpu i recriwtio a chadw staff. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle inni hyfforddi staff yn lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu faint o lawdriniaethau robotig y gallwn eu cynnig i gleifion canser ledled y Gogledd.”