English icon English

Cyfyngiadau tynnach ar allyriadau diwydiannol, pŵer ac awyrennau, wrth i’r Deyrnas Unedig arwain y ffordd i Sero Net

Tighter limit on industrial, power and aviation emissions, as UK leads the way to Net Zero

  • Cyfyngiadau newydd ar allyriadau yn cael eu cadarnhau ar gyfer y sector pŵer, diwydiannau ynni-ddwys a hedfan o 2024
  • Estyn y cap ar allyriadau i fwy o sectorau yn y DU – trafnidiaeth forol domestig a gwastraff – yn bwrw ymlaen safle’r DU fel arweinydd byd ym maes datgarboneiddio
  • Trawsnewidiad graddol i fusnesau wrth iddynt gymryd y cam nesaf tuag at ddatgarboneiddio, gyda newidiadau’n digwydd fesul cam ac yn cael eu mesur

Bydd sectorau pŵer a diwydiannol y DU yn arwain y ffordd tuag at ddatgarboneiddio, wrth i’r cap ar eu hallyriadau gael ei dynhau o ddiwydiannau ynni uchel dethol a fydd yn gosod llwybr i nodau hinsawdd uchelgeisiol y wlad.

Heddiw mae pecyn o ddiwygiadau wedi cael ei gyhoeddi gan Awdurdod ETS y DU – y corff ar y cyd sy’n cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon sy’n gweithredu’r cynllun.

Mae’r cynllun – sydd yn ei le ers 2021 - yn gosod cyfyngiadau ar faint o nwyon tŷ gwydr y bydd y diwydiannau hedfan, pŵer ac ynni-ddwys eraill yn cael eu gollwng.  Mae hyn yn cymell busnesau i ffwrdd o danwydd ffosil costus ac yn eu hannog i dorri eu hôl troed carbon trwy fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a thechnolegau glanach, neu adnewyddadwy a all yn eu tro hybu diogelwch ynni.

Mae’r diwygiadau hyn yn adeiladu ar lwyddiant ETS y DU hyd yma, gan gynyddu’r uchelgais ond rheoli’r newid mewn ffordd sy’n helpu’r busnesau yr effeithir arnyn nhw.

O flwyddyn nesaf, bydd gofyn i’r diwydiannau hyn ostwng eu hallyriadau i’r gyfradd sydd ei hangen i allu taro’r amcanion sero net – gan anfon arwydd clir at ddiwydiant i fuddsoddi mewn datgarboneiddio tymor hir a fydd yn helpu'r DU i gynnal ei safle blaenllaw yn y byd o ran lleihau allyriadau carbon.

I hwyluso’r newid hwn, gosodir y cap ar lefel uchaf yr ystod yr ymgynghorwyd arno, yn unol â sero net – gan roi’r hyblygrwydd mwyaf i fusnesau. Caiff rhagor o lwfansau eu neilltuo i’r farchnad rhwng 2024 a 2027. Wrth i lefelau presennol o ddyraniad lwfansau am ddim ar gyfer diwydiant hefyd wedi'u gwarantu tan 2026, er mwyn parhau i'w hamddiffyn rhag pwysau rhyngwladol. 

Cyhoeddodd yr Awdurdod heddiw hefyd y caiff ETS y DU ei estyn i gwmpasu rhagor o sectorau - trafnidiaeth forol domestig o 2026 a gwastraff o 2028 - wrth ddileu’n raddol y lwfansau carbon am ddim i’r diwydiant hedfan a chefnogi buddsoddi mewn technolegau newydd ar gyfer Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr.

 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Awdurdod ETS y DU, gan gynnws yr Arglwydd Callanan, Julie James AS, Màiri McAllan ASA a Gareth Davies AS:

“Gyda’r cynnydd diweddar ym mhrisiau ynni, mae’n bwysicach nawr nac erioed ein bod yn prysuro’r trawsnewid oddi wrth danwyddau ffosil costus, tuag at ynni gwyrddach a sicrach ei gyflenwadau.

“Mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, ynghyd ag ymyriadau eraill, yn rhan o strategaeth ehangach i greu fframwaith tymor hir i gymell diwydiannau’r DU i ddatgarboneiddio – gan fanteisio ar y cyfleoedd anferth sy’n ymddangos mewn sector ynni glân sy’n tyfu, a chan roi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i fuddsoddi mewn technolegau gwyrdd newydd.

“Bydd y penderfyniadau a wneir nawr yn ein rhoi ni ar y llwybr tuag at sero net, ac yn cefnogi diwydiannau hanfodol ar eu llwybr hwythau tuag at gynaliadwyedd tymor hir.”

Cafodd ETS y DU ei lansio yn 2021 i gymryd lle ETS yr UE yr oedd y DU yn cymryd rhan ynddo. Mae’r cynllun yn cymell datgarboneiddio trwy brynu a gwerthu lwfansau allyriadau. Rhaid i gwmni gael lwfans ar gyfer pob tunnell o allyriadau y mae’n ei gynhyrchu bob blwyddyn. Gall cwmnïau sy’n llwyddo i leihau eu hallyriadau werthu’r lwfansau nad ydyn nhw wedi’u defnyddio i gwmnïau eraill.

Mae’r ETS yn cefnogi busnesau mewn sectorau sy’n wynebu cystadleuaeth ffyrnig dramor trwy roi lwfansau am ddim iddyn nhw, i wneud yn siŵr nad yw cystadleuwyr carbon-ddwys yn tanseilio’u hymdrechion i ddatgarboneiddio – risg a elwir yn ‘dadleoli carbon’. Mae dadleoli carbon yn cyfeirio at symud gweithgareddau cynhyrchu a’u hallyriadau cysylltiedig o un wlad i wlad arall oherwydd lefelau gwahanol o reolau datgarboneiddio, fel rheoliadau prisio carbon a hinsawdd. 

Cyhoeddwyd heddiw hefyd y penderfyniad i gadw’r gefnogaeth a roddir ar ffurf lwfansau am ddim ar lefel heddiw tan 2026, er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau am y gefnogaeth fydd ar gael yn y tymor canolig. 

Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod angen set gynhwysfawr o bolisïau, gan gynnwys cyllid, rheoleiddio a phrisio carbon, er mwyn gallu datgarboneiddio at y lefel sydd ei angen y degawd hwn a thu hwnt.

Nodiadau i olygyddion

Cap ETS y DU

Mae'r ystod uchelgeisiol yr ymgynghorwyd arno y llynedd ar gyfer cap ETS y DU yn parhau'n gyson â chyflawni ar sero net. Bydd dewis y brig yn yr ystod hon yn cefnogi trosglwyddiad llyfn i gyfranogwyr ac yn galluogi hyblygrwydd parhaus i liniaru risgiau marchnad a gollyngiadau carbon. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, bydd y cap sero net yn cael ei weithredu ar gyfer 2024. Bydd trosglwyddiad llyfn i'r cap sero net - drwy ryddhau lwfansau ychwanegol o gronfeydd wrth gefn i'r farchnad rhwng 2024 a 2027 bydd Awdurdod ETS y DU yn sicrhau nad oes gostyngiad sydyn yn y cyflenwad lwfans rhwng 2023 a 2024. Mae'r lwfansau hyn eisoes wedi'u creu mewn blynyddoedd cynllun blaenorol o fewn terfynau cyffredinol y cap, felly ni fydd cryfder yr uchelgais hinsawdd gyffredinol yn cael ei effeithio.

Ychwanegu’r sectorau trafnidiaeth forol a gwastraff at yr ETS

Am y tro cyntaf, caiff y sectorau trafnidiaeth forol ddomestig, llosgi gwastraff ac ynni o wastraff eu hychwanegu at y cynllun.  Mae hyn yn cyd-fynd â’r ymrwymiad i ddod â sectorau eraill sy’n drwm o ran eu hallyriadau o dan ETS y DU. Bydd yn annog cwmnïau yn y sectorau hyn i leihau eu hallyriadau a buddsoddi mewn opsiynau glanach. Cyhoeddir y newidiadau hyn nawr er mwyn rhoi amser i weithredwyr baratoi a sicrhau newid esmwyth ar gyfer y busnesau sydd wedi’u heffeithio. Bydd yr ETS yn tyfu i gynnwys y sector trafnidiaeth forol ddomestig yn 2026 a’r sectorau llosgi gwastraff ac ynni o wastraff yn 2028.  Ymgynghorir ymhellach ar y manylion gweithredu ac ar gyfnod adrodd cychwynnol y sectorau gwastraff.

Diddymu lwfansau am ddim i’r sector hedfan

Fel cam arall tuag at ddatgarboneiddio’r economi, cyhoeddodd Awdurdod ETS y DU heddiw ei benderfyniad i raddol ddiddymu lwfansau am ddim i’r sector hedfan yn 2026.  Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud yng ngoleuni tystiolaeth o risg isel iawn o ddadleoli carbon, hynny yw na fydd allyriadau hedfan yr ETS yn debygol o gael eu symud o ganlyniad i ETS y DU. Yn hytrach, bydd gofyn i fusnesau hedfan brynu lwfansau am bob tunnell o garbon y byddan nhw’n ei gynhyrchu o dan y cynllun. I helpu cwmnïau hedfan i baratoi ar gyfer y newid, bydd hawl i ddyraniadau am ddim yn parhau fel y cynlluniwyd yn 2024 a 2025 tan 2026.

Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr

Cyhoeddodd yr Awdurdod ei benderfyniad hefyd bod ETS y DU yn farchnad tymor hir briodol ar gyfer technoleg Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr (GGR). Bydd hyn yn sbardun i fuddsoddi mewn technolegau fydd yn hanfodol i gyrraedd sero net. Trwy ddod â thechnolegau GGR o dan ymbarél ETS y DU, sbardunir buddsoddi mewn technolegau newydd – fel Dal Uniongyrchol yn yr Aer, sy’n sugno allyriadau carbon yn uniongyrchol o’r atmosffer i’w storio mewn creigiau o dan wyneb y ddaear. Gallai ETS y DU gynnig marchnad dymor hir briodol hefyd ar gyfer dulliau naturiol o ansawdd uchel ar gyfer Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr, ond byddai’n rhaid rhoi rhagor o ystyriaeth i hynny.

Nodiadau i olygyddion

  • Cynhaliodd Awdurdod ETS y DU ymgynghoriad ar newidiadau i ETS y DU rhwng 25 Mawrth ac 17 Mehefin 2022, ac mae ymateb llawn Awdurdod ETS y DU ar gael yma. Mae'r uwch swyddogion yng Ngogledd Iwerddon wedi cytuno ar gynnwys yr ymateb hwn.
  • Dyma Weinidogion Awdurdod ETS y DU a ddyfynnir:

o Yr Arglwydd Callanan, y Gweinidog Effeithlonrwydd Ynni a Chyllid Gwyrdd, DESNZ

o Julie James AS, y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Llywodraeth Cymru

o Màiri McAllan ASA Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Sero Net a Just Transition, Llywodraeth yr Alban

o Gareth Davies AS, Ysgrifennydd y Trysorlys i'r Trysorlys

  • Ochr yn ochr â chymorth drwy ddyraniadau am ddim ETS y DU, mae Llywodraeth y DU yn mynd ymhellach drwy helpu busnesau i leihau eu hallyriadau drwy'r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) ac IETF yr Alban – gyda mwy na £500m ar gael i helpu diwydiannau i leihau eu hallyriadau a'u biliau ynni.
  • Mae Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yr Alban (SIETF) ymhlith cefnogaeth Llywodraeth yr Alban i ddatgarboneiddio diwydiannol. Mae SIETF yn cydfuddsoddi ag ystod amrywiol o weithgynhyrchwyr Albanaidd i leihau costau ynni ac allyriadau trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio dwfn.
  • Mae Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yr Alban (SIETF) ymhlith cefnogaeth Llywodraeth yr Alban i ddatgarboneiddio diwydiannol. Mae SIETF yn cyd-fuddsoddi ag ystod amrywiol o weithgynhyrchwyr Albanaidd i leihau costau ynni ac allyriadau trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio dwfn. 
  • Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £80 miliwn i roi busnesau ar lwybr i chwyldroi eu diwydiant gyda ffynonellau ynni glanach - fel hydrogen a biomas. Nod y cyllid – sy’n rhan o Bortffolio Arloesedd Sero Net Llywodraeth y DU gwerth £1 biliwn – yw lleihau’r galw cyffredinol am ynni yn y DU 15% erbyn 2030, ochr yn ochr â’r uchelgais ehangach i’r DU symud tuag at fwy o annibyniaeth ynni.