English icon English

Siarter i ddatblygu arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru

Charter to develop healthcare innovation in Wales

AstraZeneca, sef prif gwmni gwyddor bywyd y Deyrnas Unedig, yw’r sefydliad diweddaraf i ymuno â siarter i hyrwyddo arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru.

Heddiw, mae’r cwmni wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gan ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu ffyrdd newydd o ganfod afiechydon a’u trin, a chyflawni’r hyn sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y cydweithio hwn yn cyfuno nodau polisi ar draws y sector iechyd a’r economi yng Nghymru, gan helpu i flaenoriaethu cyflwyno meddyginiaethau a thechnolegau gofal iechyd arloesol , a hynny ar sail gwerth sy’n cael ei greu i bobl a chymunedau.

Dywedodd Prif Swyddog Digidol ac Arloesi Llywodraeth Cymru, Mike Emery:

“Mae gwyddoniaeth, data a thechnoleg newydd yn arwain at ddatblygiadau newydd yn y ffordd rydyn ni’n canfod afiechydon a’u trin, gan arwain at ganlyniadau llawer gwell i gleifion.

Mae’r siarter hon yn dod â’r GIG, y llywodraeth, y byd academaidd a phartneriaid yn y diwydiant at ei gilydd i archwilio a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gofal iechyd yng Nghymru.

Bydd o gymorth i gyflwyno arferion gofal iechyd, technoleg a meddyginiaethau arloesol yng Nghymru a fydd yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell i bawb.

Mae’r gwaith hwn yn allweddol i gyflawni Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth fel y nodir yn strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach.”

Dywedodd Llywydd AstraZeneca UK, Tom Keith-Roach: 

“Yn AstraZeneca, rydyn ni’n angerddol am drawsnewid bywydau cleifion er gwell. Drwy gydweithio â’r system gofal iechyd a’r byd academaidd, gallwn drawsnewid canlyniadau iechyd ar lefel y boblogaeth gyda’n gilydd a hynny drwy fodelau cyflawni gofal arloesol a chynaliadwy.

 Rydyn ni’n falch ein bod yn datblygu ein partneriaethau pwrpasol presennol gyda Phrifysgol Abertawe a Byrddau Iechyd ledled y wlad i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru iachach.

Gyda’n gilydd, rydyn ni eisoes yn gwella’r ffordd y mae miloedd o bobl yn cael diagnosis a chael eu trin. Enghreifftiau o hyn yw gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt drwy brofion genomig wedi’u targedu ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a mynd i’r afael ag ôl-groniad o achosion wedi’r pandemig ym maes gofal asthma ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Drwy’r Siarter hon, mae gennym bellach yr uchelgais gyffredin i ddatblygu partneriaethau fel y rhai hyn ar lefel genedlaethol.

Mae AstraZeneca yn falch o weithio gyda Chymru, a gyda’n gilydd, dylem gael ein hysbrydoli gan yr hyn y gall gwyddoniaeth ei wneud.”

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Fel cenedl, mae Cymru ar flaen y gad ym maes Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth. Ers amser, mae ein sefydliad wedi cefnogi mentrau arloesol sy’n gwella canlyniadau cynaliadwy i gleifion a staff.

Drwy’r Siarter hon, rydyn ni’n edrych ymlaen at gryfhau ein cysylltiadau â chydweithwyr ar draws sectorau, lle gallwn gefnogi prosesau mabwysiadu arloesi hanfodol, gan weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd a phartneriaid yn y diwydiant i ddod o hyd i atebion sy’n mynd i’r afael ag angen ac sy’n sicrhau gwerth.”

Dywedodd yr Athro Hamish Laing o Brifysgol Abertawe:

“Sefydlwyd Prifysgol Abertawe gan ddiwydiant ac mae ganddi hanes hir o gefnogi partneriaethau diwydiant.

Ers 2021, rydyn ni wedi bod yn falch o gynnal yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn ein Hysgol Reolaeth. Mae’r Academi’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n adnabyddus ledled y byd.

Mae’r Academi yn darparu addysg, ymchwil ac ymgynghoriaeth ym maes Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth i gefnogi’r gwaith o’i gyflwyno yn rhyngwladol.

Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gydag AstraZeneca a chyda’n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu dysgu a mabwysiadu arloesi sy’n cefnogi systemau iechyd cynaliadwy.”

Nodiadau i olygyddion

  • The signing will take place at 15.00 on Tuesday 21 November at the School of Management, Swansea Bay University.
  • Photographs of the signing will be available afterwards. If you would like a photograph or would like to send a photographer or reporter to the signing, please contact Catrin Newman - c.a.newman@swansea.ac.uk
  • Available for interview will be:

Welsh Government’s Chief Digital and Innovation Officer, Mike Emery

 AstraZeneca UK’s President, Tom Keith-Roach

  • The first charter, signed in 2021, led to work between Pfizer global and UK, NHS Wales and Swansea University’s Value-Based Health and Care Academy on several different projects, including the design of outcome-based agreements for medicines, the measurement of outcomes for patients with inflammatory bowel disease and the benefit of digital technology in Hywel Dda Health Board area to help people manage persistent pain.