Sicrhau Dyfodol Gwyrdd Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio
Securing Wales’ Green Future – Trydan Gwyrdd Cymru is launched
Lansiodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Jeremy Miles, ddatblygwr ynni adnewyddadwy Cymru heddiw, sefydliad cyhoeddus o'r enw Trydan Gwyrdd Cymru.
Mae'r cwmni wedi cael ei sefydlu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni gwynt ar y tir, ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru, ac i gynyddu eu gwerth ar gyfer pobl Cymru cymaint ag y bo modd.
Bydd tîm Trydan Gwyrdd, a leolir ym Merthyr Tudful, yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt ar yr ystad goetir. Byddan nhw'n dechrau ymgysylltu â chymunedau ar bwys y safleoedd cyntaf cyn gynted â phosibl.
Yn y lansiad ym Mryncynon, nododd Jeremy Miles gynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chyflenwadau ynni gwyrddach, mwy cynaliadwy, a chyhoeddodd y byddai Strategaeth Wres yn cael ei chyhoeddi.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg
"Heb os mae ynni glân yn ganolog i Gymru fwy llewyrchus a dyfodol gwell i'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiadau heddiw yn dangos sut byddwn yn sicrhau bod newid y math o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio o fudd i Gymru, nawr ac yn y dyfodol.
"Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd ym maes ynni gwynt ar y môr ac mae heddiw yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir ar gyfer prosiectau ar y tir – yn enwedig prosiectau mawr ar y tir y mae Cymru yn berchen arnyn nhw. Mae cyfleoedd enfawr yma.
"Bydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddadwy ein hunain ar ran Cymru yn ein galluogi nid yn unig i ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'r amgylchedd naturiol, ond yn bwysicaf oll i roi'r gallu inni, a phobl Cymru, i dderbyn enillion yr hyn a fydd yn fuddsoddiad sylweddol.
"Mae gennyn ni ffordd hir o'n blaenau ac ni fyddwn yn dechrau cynhyrchu incwm i Gymru am nifer o flynyddoedd – ond mae'r gwaith i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein hynni yn dechrau heddiw."
Dywedodd Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni y Deyrnas Unedig:
"Bydd pobl Cymru yn elwa'n fawr o'r ynni glân cynaliadwy o Gymru gan Drydan Gwyrdd Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni wneud Prydain yn bŵerdy ynni glân, gan gynnwys amlinellu camau cyntaf Great British Energy, rhoi hwb i'n hannibyniaeth ynni a gostwng biliau unwaith ac am byth."
Dywedodd Richard Evans, Prif Swyddog Gweithredol Trydan:
"Yng Nghymru mae gennyn ni hanes o gydweithio ac ymgysylltu cymdeithasol, a bydd Trydan yn parhau â hynny. Er mwyn sicrhau cefnogaeth pobl wrth roi ynni adnewyddadwy ar waith yn gyflymach ac ar raddfa fwy, bydd angen i'r sector dangos bod manteision amlwg ar gyfer cymunedau lleol, buddsoddi mwy yng nghadwyni cyflenwi Cymru a'r DU, a helpu preswylwyr a busnesau sy'n poeni am filiau ynni.
"Heddiw rydyn ni'n lansio ein hymarfer ymgysylltu gan geisio dod â dinasyddion Cymru gyda ni ar y daith gyffrous hon. Nesaf, byddwn yn estyn allan i gymunedau lleol i drafod cynlluniau cynnar iawn sy'n gysylltiedig â phrosiectau â blaenoriaeth ar ystad goetir Cymru.
"Mae gweithwyr proffesiynol gwych yn y diwydiant yng Nghymru - rwy'n hapus fy mod wedi recriwtio sawl un i weithio ochr yn ochr â mi yn Trydan - ac edrychwn ni ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau, ar nodau strategol ac ar lunio ein prosiectau o'r dechrau un."
Yn ystod y digwyddiad lansio yn y Feel Good Factory ym Mryncynon y bore yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Wres Drawslywodraethol hefyd – sy'n nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant fel rhan o'i hymrwymiadau sero net. Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono'n dod o danwyddau ffosil, mae'r strategaeth yn edrych ar draws cartrefi, busnesau, diwydiant a'r sector cyhoeddus ar yr hyn y bydd angen i bob maes ei roi ar waith i sicrhau system ynni carbon isel.
Un enghraifft sy'n cael ei ystyried yw a ellir defnyddio dŵr cynnes o hen byllau glo i wresogi cartrefi mewn hen gymunedau glofaol. Newydd ddechrau mae'r gwaith hwn, ond mae'r Awdurdod Glo wedi cynhyrchu mapiau manwl sy'n nodi ble mae dŵr mewn pyllau glo y gellid cael mynediad ato, a bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw a'r awdurdodau lleol perthnasol i fanteisio i'r eithaf ar ganlyniadau anfwriadol treftadaeth lo Cymru i ategu'r gwaith o sicrhau cymdeithas sero net.