English icon English
WG positive 40mm-3

Statws Uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Escalation status of Betsi Cadwaladr University Health Board

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mesurau ymyrraeth wedi’u targedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.

Gwnaed y penderfyniad ar ôl cyfarfod teirochrog fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio GIG Cymru, ac mae’n dilyn pryderon parhaus yn ymwneud â’r bwrdd iechyd mewn nifer o feysydd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac amlwg am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu a’r cynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd a’r adran frys.

“Hoffwn sicrhau’r cleifion a’r cymunedau y mae’r bwrdd iechyd yn eu gwasanaethau a’r staff sy’n gweithio ynddo, na fydd gwasanaethau o ddydd i ddydd yn cael eu heffeithio mewn modd negyddol. Fodd bynnag, bydd y bwrdd yn ystyried meysydd sylweddol o bryder.

“Gan ystyried natur ddifrifol ac eithriadol yr uwchgyfeirio hwn, caiff y trefniadau hyn eu monitro’n agos a’u hadolygu’n gynnar i sicrhau cynnydd.”

Bydd y mesurau ymyrraeth wedi’u targedu yn:

  • Cefnogi newid diwylliant ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd
  • Parhau i fonitro gwasanaethau fasgwlaidd canolog
  • Symud arweinwyr clinigol cenedlaethol i Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd i fynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • Comisiynu asesiad annibynnol o’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn adolygiadau iechyd meddwl diweddar.

Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi gofyn i’r bwrdd iechyd adolygu’r capasiti presennol o ran llywodraethu, archwilio ac effeithiolrwydd, a gweithio gyda Gwelliant Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen addysg a chymorth gyflym i wella sgiliau.

Gofynnir hefyd iddo sicrhau bod penodiad uwch yn cael ei wneud i swydd Cyfarwyddwr Diogelwch a Gwelliant. Bydd yr unigolyn hwn yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio newydd i sicrhau gwelliannau a rhannu mesurau llywodraethu ar draws y bwrdd iechyd.

Cynhelir cyfarfod teirochrog arall ddiwedd mis Hydref 2022 fan bellaf.