English icon English
WLE books-2

Stori lwyddiannus i’r sector cyhoeddi

A success story for Welsh Publishing

Bydd Cymru Creadigol yn arwain y daith fasnach gyntaf i’r 75ain Ffair Lyfrau Frankfurt/Frankfurter Buchmesse rhwng 18 a 22 Hydref.

Ffair Lyfrau Frankfurt yw prif leoliad y byd ar gyfer cynnwys printiedig a digidol a bydd yn gyfle i arbenigwyr y byd cyhoeddi gwrdd â phartneriaid o'r diwydiannau technoleg a chreadigol fel ffilm a gemau – i gyfnewid syniadau, cael eu hysbrydoli, rhoi cynnig ar dechnolegau newydd a meithrin cysylltiadau.

Mae'r ffigurau diweddaraf o ddata 2022 yn dangos bod gan y sector cyhoeddi yng Nghymru drosiant o dros £429m bob blwyddyn, gyda 965 o fusnesau yn rhan o'r diwydiant, llawer ohonynt yn ficro-gwmniau. Rhwng 2021 a 2022 gwelodd y sector gynnydd mewn cyflogaeth o bron i 20%, gyda chyfanswm o 11,000 o bobl yng Nghymru bellach yn cael eu cyflogi.

Dan arweiniad Cymru Greadigol gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, bydd 13 o gyhoeddwyr a sefydliadau yn bresennol yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2023 - cynrychiolaeth gryf o Gymru yn un o'r ffeiriau llyfrau proffil uchaf yn y Byd. 

Y cwmnïau fydd yn bresennol yw: Atebol; Buzz Publishers; Crown House Publishing Ltd; Firefly Press; Graffeg; Graham Lawler Media and Publishing; Honno Gwasg Menywod Cymru; Lucent Dreaming; Cyhoeddi Cymru; Seren; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyfnewidfa Lên Cymru / Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac Y Lolfa.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

"Rwy'n falch iawn bod gennym gynrychiolaeth mor gryf o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad proffil uchel hwn.  Bydd hwn yn llwyfan ardderchog i'r cyhoeddwyr a'r sefydliadau Cymreig hyn arddangos ac adrodd stori'r sector cyhoeddi yng Nghymru. Efallai ein bod yn fach ond rydyn ni'n genedl nerthol wedi'i llunio gan ein pobl, wedi'n hysbrydoli gan ein lleoedd ac yn gyfochrog o ddoniau creadigol.

"Wrth edrych ar bennod nesaf y sector - rydym am gefnogi busnesau creadigol a rhoi hwb i'r diwydiant drwy gynnig mynediad i weithlu medrus a'r isadeiledd gorau, wrth greu cyfleoedd i gael mynediad i farchnadoedd byd-eang trwy deithiau masnach rhyngwladol fel Ffair Lyfrau Frankfurt."

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

"Rydym yn falch iawn o ymuno â Cymru Greadigol a'n partneriaid o'r sector cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Frankfurt, ac i helpu i arddangos y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol yn y ffair gynnwys fwyaf yn y byd. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld llwyddiannau eithriadol yn y sector yng Nghymru, mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ac mae hwn yn gyfle amserol iawn i hyrwyddo a dathlu'r gorau o lyfrau a chynnwys o ac am Gymru."

Dywedodd Penny Thomas, Firefly Press:

"Mae cael stondin Cymru mor uchel ei phroffil yn Ffair Lyfrau Frankfurt eleni, yn dilyn llwyddiant stondin Cyhoeddi Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain yn y gwanwyn, yn hwb gwych i ddyheadau masnach ryngwladol y sector. Mae gan Gymru lawer o awduron, llyfrau a chyhoeddwyr gwych yr ydym yn falch iawn o'u harddangos ar stondin Cymru Greadigol."