Strategaeth ddeng mlynedd nodedig i drawsnewid gofal canser yng Nghymru
Landmark ten-year strategy to transform cancer care in Wales
- Mae Strategaeth Ganser Genedlaethol 10 mlynedd yn cael ei datblygu i drawsnewid y ffordd o atal y clefyd, rhoi diagnosis ohono a’i drin yng Nghymru.
- Bydd y strategaeth yn cael ei llywio gan alwad ffurfiol am dystiolaeth gan gleifion, gofalwyr, clinigwyr, elusennau a'r cyhoedd ynghyd â phartneriaid rhyngwladol.
- Bydd yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant ar ganser drwy ddatblygu Strategaeth Ganser Genedlaethol 10 mlynedd i drawsnewid y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn atal y clefyd ac yn rhoi diagnosis ohono a'i drin.
Canser sy'n lladd y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru a bydd un o bob dau o bobl yn cael eu heffeithio ganddo yn ystod eu hoes. Fodd bynnag, er gwaethaf pa mor gyffredin ydyw yng Nghymru, mae perfformiad gwasanaethau canser o ran triniaeth a chanlyniadau yn parhau i lusgo y tu ôl i'r safon y dylent ei chyrraedd.
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn dweud bod diffyg cyfeiriad cenedlaethol ac uchelgais strategol wedi tanseilio'r frwydr yn erbyn canser am gyfnod rhy hir. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newid hynny.
Bydd datblygu'r strategaeth yn cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gofal canser yng Nghymru – wedi'i seilio ar fynd i'r afael yn rhagweithiol ag achosion canser y gellir eu hatal, cynyddu cyfraddau diagnosis cynnar a datblygu llwybrau gofal gorau posibl ar gyfer pob math o ganser, o'r diagnosis cychwynnol hyd at ofal diwedd oes. Bydd hefyd yn cryfhau atebolrwydd ac yn sicrhau nad fydd y cod post lle mae rhywun yn byw bellach yn penderfynu ansawdd y gofal a gaiff.
Gan weithio gyda Sefydliad Canser Ewrop a phartneriaid rhyngwladol eraill, bydd Cymru yn manteisio ar y dystiolaeth a'r arloesedd rhyngwladol gorau er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu'r syniadau diweddaraf ym maes gofal canser.
Yn hollbwysig, bydd y strategaeth hon yn cael ei llywio gan y rhai sy'n deall canser orau. Bydd galwad ffurfiol am dystiolaeth yn cael ei lansio, gan roi rôl uniongyrchol i gleifion, gofalwyr, clinigwyr, elusennau a'r cyhoedd wrth lunio dull gweithredu Cymru ar gyfer canser yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgysylltu â Chynghrair Canser Cymru, sy'n cynrychioli mwy na deg ar hugain o elusennau canser, a bydd yn gweithio'n ddwys gyda'r GIG a'r trydydd sector drwy gydol y broses.
Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027.
Ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth ac yn unol â'i Chynllun 100 Diwrnod Cyntaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu egwyddorion yr Hawl i Gael Eich Anghofio i helpu goroeswyr canser i gael mynediad at wasanaethau ariannol. Mae gwaith wedi dechrau ar gronfa teithio a llety i blant a phobl ifanc sy'n mynd i apwyntiadau canser, ac mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Canolfan Diagnosis Cyflym newydd ym Mhowys.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: "I gleifion sy'n aros yn rhy hir am ddiagnosis, i deuluoedd mewn cymunedau gwledig sy'n wynebu rhwystrau mwy rhag cael gofal, ac i'r clinigwyr sy'n gweithio'n galed i ddarparu triniaeth o'r radd flaenaf heb ddigon o gydlynu cenedlaethol, mae'r strategaeth hon yn bwysig.
"Dydy Cymru heb gyflwyno strategaeth ganser genedlaethol ers 2006. Yn y ddau ddegawd ers hynny, mae triniaethau wedi trawsnewid, mae technoleg ddiagnostig wedi datblygu, mae anghenion ein poblogaeth wedi newid, ac mae ein dealltwriaeth o ganser wedi dyfnhau'n sylweddol.
"Mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu'n gyflym a gyda phwrpas ar y flaenoriaeth genedlaethol bwysig hon. Mae pob person yng Nghymru yn haeddu'r cyfle gorau posib yn erbyn canser. Mi fydd y strategaeth hon yn sicrhau hynny."