English icon English
Wales at the FIFA World Cup 2022 1 - Copyright Welsh Government

Strategaeth lwyddiannus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru i’r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael ei chanmol – adroddiad

Welsh Government strategy to promote Wales to the World during 2022 FIFA World Cup hailed as success – report

Gwnaeth dull Tîm Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar gynyddu gwelededd a phroffil Cymru ar lwyfan y byd yn ystod ac ar ôl y gystadleuaeth, yn ôl ymchwil newydd sy'n cael ei chyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr adroddiad, mae gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ddull Tîm Cymru wedi hwyluso partneriaethau newydd, wedi atgyfnerthu rhwydweithiau ac wedi gwella cysylltiadau rhyngwladol ym meysydd yr economi, addysg a diwylliant.

Cafodd Cronfa Cefnogi Partneriaid gwerth dros £1.8 miliwn ar draws 19 prosiect ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau ar gyfer Cwpan y Byd. Yn ôl yr adroddiad gwnaeth dros 320,000 o bobl fynychu neu gymryd rhan mewn dros 2,200 o ddigwyddiadau o dan y Gronfa Cefnogi Partneriaid a gweithgareddau cysylltiedig, gerbron cynulleidfa o dros bum miliwn.

Hefyd, arweiniodd gwaith cysylltiadau cyhoeddus a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru at Gymru yn cael sylw yn y cyfryngau dros 540 o weithiau o amgylch y byd. Creodd hyn tuag wyth biliwn o 'gyfleoedd i weld' y sylw hwn.

Canfu’r adroddiad fod presenoldeb Cymru yng Nghwpan y Byd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o'r wlad ymhlith cynulleidfaoedd o amgylch y byd.

Roedd gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn cynnwys:

  • Y Gronfa Cefnogi Partneriaid a ariannodd 19 o sefydliadau diwylliant, chwaraeon ac addysg i gynnal gweithgareddau ar i ddathlu presenoldeb Cymru yng Nghwpan y Byd.
  • Ymgyrch farchnata well a oedd yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed craidd ar draws brand Cymru Wales, busnesau a thwristiaeth, yn ogystal â sicrhau bod presenoldeb yr ymgyrch yn gryf yng Nghymru. Roedd marchnadoedd targed yr ymgyrch yn cynnwys Cymru, UDA, rannau o Ewrop, y DU a Qatar.
  • Llysgenhadon Cwpan y Byd Lleisiau Cymru – menter newydd sy'n cynnwys grŵp o bedwar unigolyn a oedd yn gweithio i godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac i helpu i greu canfyddiadau cadarnhaol hirdymor ac adeiladu cysylltiadau cryf â phartneriaid allweddol.
  • Digwyddiadau rhyngwladol wedi'u trefnu gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, yn benodol yn Qatar ac UDA.

Canfu hefyd fod hyn i gyd wedi cael ei gyflawni yn yr adeg fer rhwng Cymru yn ennill ei lle yn y gystadleuaeth ym mis Mehefin a dechrau'r twrnamaint ym mis Tachwedd

Dywedodd rhanddeiliaid fod dull Tîm Cymru wedi dod â sefydliadau ynghyd, gyda ffocws strategol a chydgysylltiedig, a nodi bod dull Llywodraeth Cymru o gyfuno chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol yn ffordd arbennig o effeithiol o ddangos i weddill y byd fod Cymru yn wlad ar wahân.

Canfu'r adroddiad dystiolaeth gref bod y gweithgareddau hyn wedi cyrraedd cynulleidfa eang – gartref ac yn rhyngwladol:

Gan groesawu'r adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Sefydlodd Llywodraeth Cymru amrediad uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau, i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle unigryw a roddwyd gan bresenoldeb tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.

"Ein nod oedd hyrwyddo Cymru a rhannu ein gwerthoedd cynwysoldeb ac amrywiaeth, sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y twrnamaint a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol. Mae'r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein bod ni wedi rhagori ar ein nodau a'n bod ni’n agos iawn at sicrhau gwaddol parhaol.

“Mae ein Cronfa Cefnogi Partneriaid gwerth £1.8 miliwn wedi dangos talent Cymru i'r byd, wedi hwyluso partneriaid newydd ac wedi atgyfnerthu rhwydweithiau ym meysydd busnes, gwyddoniaeth a'r celfyddydau.

"Diolch i'n dull Tîm Cymru, gan ddod ag amrediad eang o bartneriaid ynghyd, mae Llywodraeth Cymru wedi adeiladu model effeithiol y gellir ei ailddefnyddio i gefnogi strategaethau yn y dyfodol, fel y posibilrwydd o gynnal Cystadleuaeth Bêl-droed Ewropeaidd FIFA ar y cyd yn 2028."

Dywedodd Laura McAllister o Lleisiau Cymru:

"Roedd Cwpan y Byd yn cynnig cyfle digynsail inni godi proffil Cymru, wrth ar yr un pryd gadw at ein gwerthoedd amrywiaeth, cynwysoldeb a pharch at hawliau dynol, a hyrwyddo'r hawliau hynny. Rwyf wrth fy mod yn gweld ein llwyddiannau yng Nghwpan y Byd, a byddwn ni'n adeiladu ar y gwaddol hwn a sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle unigryw ar gyfer Cymru, pêl-droed a'r tu hwnt."

Mae'r gwerthusiad llawn o weithgareddau ar gyfer Cwpan y Byd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Further findings include:

  • The enhanced marketing campaign activities delivered by Welsh Government under the Cymru Wales brand have generated over 150 million opportunities to see content relating to Wales (49% above the target set).
  • 48 million views of videos relating to the Cymru Wales brand was also observed (50% above the target set).
  • Traffic to the wales.com website increased by 600 per cent during November and December 2022.
  • Mentions of Wales online were 40 per cent higher globally in the second half of 2022 compared to the first half of the year.
  • Stakeholders described other emerging economic outcomes including ongoing discussions with potential overseas investors about creating new jobs in Wales; these organisations had been engaged during the Welsh Government-funded World Cup events in the USA.
  • Some stakeholders provided examples of specific artists and musicians who had capitalised on their participation in PSF activities and been successful in gaining new work or commissions as a result.