Sut mae ysgol fro yng Nghasnewydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
How a community focussed school in Newport is tackling inequality
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wedi cyfarfod â staff, disgyblion a rhieni yn Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd, er mwyn gweld sut mae ysgol fro yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.
Erbyn 2025, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £60m o gyllid cyfalaf i gefnogi ysgolion bro ledled Cymru i agor eu cyfleusterau yn ddiogel i deuluoedd a'r gymuned ehangach. Yn ogystal, mae £6.5m yn cael ei ddarparu ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd sy'n cael eu cyflogi gan ysgolion, a rhan o'u rôl yw gwella lefelau presenoldeb disgyblion. Mae cynllun i dreialu Rheolwyr Ysgolion Bro yn parhau, er mwyn helpu’r gwaith ymgysylltu rhwng ysgolion a chymunedau.
Mae Ysgol Gynradd Maendy wedi derbyn £48,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer adeilad cymunedol newydd ac i wella diogelwch (gan gynnwys teledu cylch cyfyng, drysau diogel newydd a ffensys) fel y gellir agor cyfleusterau'r ysgol i'r gymuned leol. Mewn ysgol lle mae dros 40 o ieithoedd yn cael eu siarad, mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol a'r ymgysylltu â theuluoedd.
Yn allweddol i lwyddiant Maendy fu datblygu rôl Rheolwr Ysgolion Bro ar gyfer ardal Casnewydd. Mae Martine Smith bellach yn gweithio ar draws y ddinas i gefnogi ysgolion i ddatblygu eu gweithgareddau cymunedol eu hunain ar sail anghenion penodol eu cymunedau.
Ymwelodd Jeremy Miles â sesiwn 'Cook Stars' yn yr ysgol lle mae rhieni a gofalwyr yn dysgu sut i goginio prydau bwyd cost isel.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae Ysgol Gynradd Maendy yn enghraifft wych o sut y gall ysgol fro fod o fudd i'r teuluoedd a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, mynd i'r afael ag effaith tlodi, a gwella proses ddysgu a lefelau presenoldeb plant yn yr ysgol.
"Dw i'n falch y bydd ein buddsoddiad yn galluogi ysgolion ledled y wlad i ymgorffori strategaethau ysgolion bro yn llawn."
Ychwanegodd Martine Smith, Rheolwr Ysgolion Bro Casnewydd:
"Mae gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gael gwared ar rwystrau a darparu cyfleoedd i rieni ac aelodau ehangach o'r gymuned yn ganolog i strategaeth ysgolion bro yng Nghasnewydd.
"All ysgolion ddim datblygu strategaethau cymunedol ar eu pen eu hunain, ac mae angen iddyn nhw weithio mewn partneriaeth â'r rhai sydd â'r arbenigedd i ddarparu'r gefnogaeth iawn i deuluoedd. Yn Maendy rydyn ni'n sicrhau bod gan rieni fynediad at 'le diogel' a 'wyneb diogel' er mwyn cael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i'w cefnogi eu hunain."
Mae canllawiau hefyd wedi cael eu cyhoeddi i helpu ysgolion i ddatblygu eu strategaethau eu hunain fel ysgolion bro.
Yn gynharach yr wythnos hon, lansiodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt Strategaeth Tlodi Plant Cymru sy'n nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant dros y degawd nesaf.
Dywedodd Ms Hutt:
"Un o brif amcanion y strategaeth yw creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
"Mae ysgolion bro yn enghraifft o roi'r gallu i bobl ifanc ddysgu a rhoi'r sgiliau sydd eu hangen iddyn nhw fel sail ar gyfer eu bywydau fel oedolion. Bydd hyn o fudd nid yn unig i'r bobl ifanc, ond i'w cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol hefyd."
Mae ysgolion bro yn rhan o ystod o bolisïau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynllunio i gynnig cymorth ymarferol i blant a theuluoedd:
- Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn cynnig hyd at £200 i deuluoedd cymwys ar gyfer gwisg ysgol a hanfodion eraill yr ysgol.
- Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, mae holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim yn ystod oes y Cytundeb. Mae 15 miliwn o brydau bwyd wedi'u gweini hyd yn hyn.
- Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n cynnig cynllun brecwast am ddim i blant ym mhob ysgol gynradd. Y llynedd, fe wnaeth 51,600 o ddisgyblion elwa o'r gefnogaeth hon.
- Yn 2023-24, buddsoddwyd £6.5m mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd.
- Darparu cyllid ar gyfer Rheolwyr Ysgolion Bro sy'n cefnogi ymgysylltiad rhwng ysgolion a chymunedau.
- Bellach mae'n ofynnol i athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
- Cymorth gyda chost y diwrnod ysgol – mae hyn yn cynnwys canllawiau i ysgolion ar fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol, y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol sy'n cynnig cyfle i bob plentyn ddysgu offeryn cerdd, a rhoi llyfrau.
- Mae'r ymgynghoriad ar newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn ystyried y ffordd orau o gefnogi pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn tlodi.