English icon English
rugby-2

Sut mae ysgolion bro yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb

How community focussed schools are helping to tackle inequality

Wrth i Gymru wynebu'r Ariannin y penwythnos hwn yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd, bydd Ysgol Llangynwyd ym Maesteg nid yn unig yn dathlu llwyddiant chwaraeon Cymru, gyda'r cyn-ddisgybl Dewi Lake yn arwain y garfan, ond byddant hefyd yn elwa ar £155,000 ar gyfer adnewyddu eu cyfleusterau chwaraeon.

Bydd Ysgol Llangynwyd yn derbyn £155,000 o gyllid ysgolion bro Llywodraeth Cymru ar gyfer pafiliwn chwaraeon newydd ac i adnewyddu eu cyrtiau tenis a'r neuadd chwaraeon. Bydd hyn yn galluogi defnydd pellach o gyfleusterau'r ysgol gan y gymuned leol.

Mae gan yr ysgol berthynas agos â nifer o glybiau chwaraeon lleol, gan gynnwys yr Urdd, Llan Rangers a Chlwb Pêl-droed Parc Maesteg.

Rhwng 2023 a 2025, bydd £46m o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion ledled Cymru mewn prosiectau seilwaith ymarferol i greu Ysgolion Bro. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn dros £2.3m ar gyfer 21 o brosiectau, gan roi budd i hyd at 49 o ysgolion ledled y fwrdeistref.

Bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau, o gynlluniau dysgu awyr agored fel ysgolion coedwig i ddefnydd cymunedol o gyfleusterau chwaraeon a hybiau a cheginau cymunedol mewn adeiladau ysgolion. Yn ogystal, darperir rhaglenni allgymorth i rieni a'r gymuned fel dosbarthiadau maeth a sgiliau, a sesiynau darllen rhieni a phlant.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae ysgolion bro yn cysylltu teuluoedd, ysgolion a chymunedau â’i gilydd. Maent yn meithrin perthynas cryf â theuluoedd, yn cefnogi cymunedau lleol, ac yn gweithio'n agos â gwasanaethau cyhoeddus ehangach.

"Dyma pam rydym yn buddsoddi £46m i alluogi ysgolion ledled y wlad i ddefnyddio eu cyfleusterau a'u hadnoddau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a gwella dysgu a dyheadau plant a’u presenoldeb yn yr ysgol.”

Dywedodd Meurig Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd: “Rydym yn hapus iawn i dderbyn cyllid ychwanegol i wella ein cyfleusterau chwaraeon.

“Bydd y pafiliwn newydd yn cymryd lle hen gyfleuster Ysgol Gyfun Maesteg ac yn ein galluogi i gael mynediad at gyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn agos at ein cae pob tywydd newydd.

"Bydd hyn yn darparu gofod addysgu ychwanegol a chyfleusterau newid ychwanegol i'n hadran Addysg Gorfforol lwyddiannus er mwyn iddynt allu adeiladu ymhellach ar ein llwyddiannau chwaraeon, fel pendodiad diweddar Dewi Lake yn gyd-gapten carfan rygbi dynion Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

“Mae gan yr ysgol berthynas agos â chlybiau chwaraeon lleol a fydd i gyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, gan sicrhau bod cyfleusterau rhagorol ar gael yng Nghwm Llynfi ac i'r Urdd gynnig cyfleoedd pellach drwy'r Gymraeg gyda'r nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

"Mae cyllid ar gyfer ysgolion bro yn cefnogi nifer o brosiectau lleol a fydd yn hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored ac yn annog gwell iechyd a lles ymhlith disgyblion a thrigolion lleol.

"Mae'r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn gyfle gwych i sicrhau integreiddio agosach a chreu cysylltiadau cryfach rhwng teuluoedd ac ysgolion, a hefyd rhoi mynediad i gymunedau at ystod ehangach o gyfleusterau lleol."

Mae canllawiau newydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru'n ddiweddar yn nodi ffyrdd y gall ysgolion bro ymgysylltu â theuluoedd, cymunedau ac asiantaethau i gefnogi anghenion eu dysgwyr a'u teuluoedd a bod o fudd i'r gymuned ehangach.