Taith twf hynod lwyddiannus i gwmni creadigol
Hugely successful growth journey for creative company
Mae cwmni creadigol yn mwynhau taith twf hynod lwyddiannus gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae Wild Creations yn cerfio, mowldio a chastio i greu propiau ac arddangosfeydd ar raddfa fawr i'w defnyddio mewn parciau thema byd-eang ac mewn digwyddiadau mawr ledled y byd.
Cynhyrchodd y cwmni y Bêl yn y Wal yng Nghastell Caerdydd i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd 2015, a draig 13 troedfedd sy'n chwythu mwg yng Nghastell Caerffili mewn cydweithrediad â Cadw.
Yn rhyngwladol, mae portffolio trawiadol Wild Creations yn cynnwys datblygu Tyrannosaurus Rex maint go iawn ar gyfer lansio'r ffilm Jurassic World – Fallen Kingdom yn 2018, a dyblygiad o'r car Dodge Charger i hyrwyddo Fast and Furious 8. Mae allforio bellach yn cyfrif am tua 90 y cant o waith y busnes.
Gyda chefnogaeth gwasanaeth Busnes Cymru, mae Wild Creations wedi creu 36 o swyddi o ansawdd uchel dros y 12 mis diwethaf, ac maen parhau i dyfu a recriwtio.
Dywedodd Matt Wild, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Wild Creations:
"Mae cymorth Busnes Cymru wedi bod yn wirioneddol rhagorol. Mae eu hymroddiad i helpu busnesau sy'n tyfu a busnesau newydd i ffynnu yn hynod o ysbrydoledig. Mae'n wych eu gweld yn hyrwyddo llwyddiant ar bob cam o'r daith."
Ymwelodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, â'r busnes yng Nghaerdydd i weld rhai o'i brosiectau cyfredol.
Cyfarfu hefyd ag amrywiaeth o fusnesau eraill sydd wedi cael cymorth gan wasanaeth Busnes Cymru i drafod yr ecosystem cymorth busnes yng Nghymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Business in Focus, menter gymdeithasol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth Entrepreneuriaeth, cymorth i Fusnesau Newydd a chymorth Datblygu Busnes a Thwf i Busnes Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
"Rydym yn awyddus i greu cyfleoedd newydd i fusnesau ledled Cymru - i gael mynediad i gyllid, i ddatblygu fel arweinwyr busnes, neu i oresgyn heriau.
"Mae Busnes Cymru wedi helpu busnesau ledled Cymru i lwyddo - gan gynnwys Wild Creations - ac mae ein tîm yn barod i gynnig cefnogaeth i bob busnes, bob cam o'r daith."
Dywedodd Phil Jones, Prif Swyddog Gweithredol Business in Focus:
"Fel prif bartner cyflenwi Busnes Cymru, mae Busnes in Focus yn falch o hyrwyddo busnesau newydd a mentrau sy'n tyfu ledled Cymru, gan gynnig arweiniad arbenigol a chefnogaeth ymarferol i helpu busnesau i ffynnu, ehangu a llwyddo."