Deputy Minister for Transport Mark Hooper with a new TaithCymru coach in Bangor-2

TaithCymru – Gwasanaeth coetsys newydd i drawsnewid teithio rhwng y gogledd a'r de

New ‘TaithCymru’ coach service to transform north-south Wales travel

  • Enw'r gwasanaeth coetsys newydd rhwng y gogledd a'r de fydd TaithCymru
  • Mae'r gwasanaeth yn dechrau ddydd Sul 25 Hydref rhwng Bangor a Chaerfyrddin
  • Cewch brynu tocynnau ymlaen llaw o 10am ddydd Mawrth 6 Hydref, drwy system archebu ar-lein

Bydd gwasanaeth coetsys pellter hir dyddiol newydd, a fydd yn cysylltu gogledd a de Cymru, yn dechrau ar ddydd Sul 25 Hydref.

Bydd TaithCymru yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron. Bydd yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr, gan wella mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden ar gyfer cymunedau ar hyd y llwybr.

Mae tocynnau ar gael o ddydd Mawrth 6 Hydref drwy system archebu ar-lein, sy'n cael ei datblygu a'i chynnal gan Trafnidiaeth Cymru. Bydd prisiau tocynnau'n cael eu cyhoeddi pan fydd y system yn fyw.

Mae TaithCymru yn un o ymrwymiadau 100 diwrnod Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhan o'i huchelgais ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull sydd wedi'i integreiddio'n well ledled Cymru. Bydd yn cysylltu canolfannau rhanbarthol allweddol, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau presennol sy'n cynnwys TrawsCymru, gwasanaethau bysiau lleol a Fflecsi, gan helpu i annog pobl i gefnu ar eu ceir a chefnogi nodau twristiaeth gynaliadwy a datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi enw'r gwasanaeth coetsys, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper:

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyflawni ein hymrwymiad 100 diwrnod i baratoi i lansio gwasanaeth coetsys newydd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru.

"Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n gyflym i gwblhau'r cynllun hwn ac rwy'n falch o gyhoeddi y bydd yn cael ei lansio ar 25 Hydref.

"Mae TaithCymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig wrth gysylltu trefi a chymunedau, gan ei gwneud yn ffordd gyflymach, haws a mwy dibynadwy o deithio er mwyn cyrraedd gwaith, addysg a hamdden."

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru:

"Mae TaithCymru yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn wrth wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau teithiau cyflymach, mwy cyfleus a mwy cynaliadwy, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden, wrth gefnogi ein huchelgais ehangach o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig i Gymru. Mae TaithCymru yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd gyda gweledigaeth gyffredin i wella trafnidiaeth i gymunedau ledled y wlad. Mae'r ymrwymiad, y cydweithrediad a'r penderfyniad a ddangoswyd gan dimau ar draws Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r gwasanaeth hwn wedi bod yn rhagorol."

Yn ogystal â gwella cysylltiadau, bydd y gwasanaeth hefyd yn hwyluso trefniadau teithio ar gyfer twristiaeth gynaliadwy i gyrchfannau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion, ac yn cefnogi Cymru i symud i economi wyrddach drwy ddarparu dewisiadau amgen, carbon isel yn lle defnyddio ceir.