Tasglu gwydnwch Môr Iwerddon yn cynnal ei gyfarfod cyntaf
Irish Sea resilience taskforce holds first meeting
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Tasglu Gwydnwch Môr Iwerddon yn Ynys Môn heddiw, gan ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o Gymru, Iwerddon a thu hwnt ynghyd i gryfhau cysylltiadau hanfodol ar y môr rhwng y gwledydd.
Sefydlwyd y tasglu yn dilyn cau porthladd Caergybi dros dro ym mis Rhagfyr, a dynnodd sylw at bwysigrwydd hanfodol cynnal llwybrau dibynadwy ar y môr rhwng Cymru ac Iwerddon.
Dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Seán Canney, bydd y grŵp yn gweithio i wella gwydnwch cysylltiadau ar y môr a chyfleusterau porthladdoedd.
Mae aelodaeth graidd y tasglu yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau Cymru, Iwerddon, y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, gweithredwyr porthladdoedd, cwmnïau fferi, a chynrychiolwyr y diwydiant logisteg, a bydd yn galw ar arbenigwyr am fewnbwn i themâu penodol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: “Mae wedi bod yn dda heddiw i bawb ddod at ei gilydd i drafod sut y gallwn gryfhau gwydnwch y cysylltiadau hanfodol ar y môr rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae pwysigrwydd strategol y cysylltiadau hyn yn glir. Bydd y tasglu hwn yn archwilio sut y gallwn atal tarfu tebyg yn y dyfodol ac yn edrych ar sut y gallwn ymateb pan fydd heriau'n codi yn unrhyw un o'n porthladdoedd, gan adeiladu ar brofiadau mis Rhagfyr diwethaf.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans: “Mae llwybrau trafnidiaeth dibynadwy ar draws Môr Iwerddon yn hanfodol ar gyfer twf economaidd yn ein rhanbarthau. Ar ôl cau docfeydd fferi yn ddiweddar, byddwn yn adeiladu ar y cydweithio effeithiol rydyn ni wedi'i weld i sicrhau bod ein porthladdoedd yn gallu ymateb i amgylchiadau newidiol. Mae'n dda gweld sut y gallwn ni gyd weithio gyda'n gilydd ar draws gwledydd, llywodraethau a sefydliadau i wella gwydnwch y cysylltiadau pwysig hyn”.
Dywedodd Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth, Seán Canney: “Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, ac Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans, wyneb yn wyneb heddiw i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth Iwerddon i feithrin gwydnwch o ran cysylltiadau ar y môr a chyfleusterau porthladdoedd ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Mae'r tasglu hwn yn gyfle ystyrlon i ddod â rhanddeiliaid o bob rhan o'r sbectrwm ynghyd i ddysgu o ddigwyddiadau diweddar a chynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol.”
Y cyfarfod heddiw yw'r cyntaf o chwe sesiwn a drefnwyd. Cytunodd yr aelodau ar Gylch Gorchwyl a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, gan gynnwys cynllunio wrth gefn, prosiectau seilwaith cyfredol, ac anghenion datblygu yn y dyfodol. Bydd y tasglu yn cwblhau ei waith ym mis Hydref 2025.