Teuluoedd cymwys yn gallu cofrestru i gael cymorth â chostau gwisg ysgol cyn y flwyddyn ysgol newydd
Eligible families can sign up to get help with uniform costs ahead of new school year
- Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael hyd at £200 i helpu gyda chostau gwisg ysgol.
- Mae'r cyfnod ymgeisio wedi cychwyn ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol sy'n cefnogi teuluoedd cymwys â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11.
Wrth i'r paratoadau ddechrau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol, mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa i edrych a ydynt yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol, sy'n helpu dysgwyr gyda chostau gwisg ysgol.
Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael rhwng £125 a £200 y dysgwr i helpu â chostau gwisg ysgol, yr offer sy'n hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth megis deunyddiau ysgrifennu a bagiau, a dillad ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi.
Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn gwahodd ceisiadau nawr ac mae'n cefnogi teuluoedd â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11, sydd ar incwm is ac sy'n cael budd-daliadau penodol.
Mae'r grant yn darparu £125 y dysgwr, a £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 er mwyn helpu â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau mewn ysgol uwchradd.
Gall teuluoedd edrych i weld a ydynt yn gymwys a gwneud cais trwy'r awdurdod lleol lle mae eu plentyn yn mynd i'r ysgol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Hawliwch help gyda chostau ysgol| LLYW. CYMRU
Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd, mae pob cais llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid llawn sydd ar gael i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.
Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith fesul plentyn fesul blwyddyn ysgol.
Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda -
- gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys offer ysgrifennu, pensiliau a bagiau ysgol
- cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg
- cyfarpar TG: gliniaduron a llechi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i'r teulu y dylid defnyddio'r Grant Hanfodion Ysgol)
- cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad sy'n dal dŵr)
- eitemau hanfodol nad ydynt yn ddillad ysgol fel dillad er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau preswyl addysg awyr agored
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi gan gynnwys, ymhlith eraill: sgowtiaid; geids; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawnsio
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: "Yn ystod mis Awst bydd llawer o deuluoedd yn prynu gwisg ysgol ac eitemau ysgol eraill; dw i am eu hannog i edrych a oes ganddyn nhw hawl i fanteisio ar y Grant Hanfodion Ysgol, a all helpu gyda chostau.
Y llynedd, cefnogwyd dros 86,000 o blant a phobl ifanc gan y Grant Hanfodion Ysgol. Mae angen i deuluoedd wneud cais amdano, er mwyn cael y taliad untro ar gyfer y flwyddyn ysgol hon."