English icon English

Tîm brysbennu’r gwasanaeth ambiwlans yn gwella profiadau ac yn lleihau’r pwysau ar adrannau brys

Ambulance service triage team improving experience and reducing pressure on emergency departments

‌Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae tîm brysbennu clinigol yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi helpu i atal yn ddiogel filoedd o siwrneiau ambiwlans i’r ysbyty.

Mae mwy nag un o bob deg o alwadau 999 gan gleifion a wnaed yn ystod y flwyddyn wedi’u brysbennu gan Dîm Gofal Integredig yr Ymddiriedolaeth a rhoddwyd gofal amgen i gleifion yn hytrach na’u cludo i’r ysbyty.

Mae’r Tîm Gofal Integredig yn cynnwys 83 o glinigwyr ledled Cymru, yn barafeddygon, yn nyrsys ac yn glinigwyr iechyd meddwl.

Mae parafeddygon y ddesg trawma hefyd ar gael i helpu a chynghori pan fo claf wedi’i anafu’n ddifrifol.

Mae clinigwyr yn adolygu cleifion sy’n aros ac yn siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n ffonio 999 er mwyn sefydlu a allai mathau eraill o ofal fod yn addas, neu a yw’n ddiogel rhyddhau’r person yn y fan a’r lle, yn ogystal â sicrhau nad oes angen newid y flaenoriaeth a neilltuwyd i’r alwad.

Ers 1 Ionawr eleni, mae’r Tîm Gofal Integredig wedi ymdrin â 96,572 o alwadau, sy’n cynrychioli tua 25% o weithgarwch 999 ar gyfer y flwyddyn.

O’r galwadau hynny, ymatebwyd i 39,269 ohonynt gan roi cyngor clinigol dros y ffôn ac osgoi cludo’r claf i’r ysbyty mewn ambiwlans. Mae hyn yn rhyddhau adnoddau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi canmol y tîm yn dilyn ei hymweliad â Chanolfan Gyswllt Glinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dywedodd:

“Mae sefydlu’r Tîm Gofal Integredig, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gwella effeithlonrwydd gwasanaethau ambiwlans ac adrannau brys a lleihau’r pwysau arnynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn pan fo’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd ar ei fwyaf s‌ylweddol.

Mae’r tîm hefyd wedi trawsnewid ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i bobl yn y gymuned drwy ddarparu ymyrraeth glinigol gynharach iddynt yn y fan a’r lle, gan helpu i gadw capasiti ymateb ambiwlansys i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.

“Mae gwaith sylweddol i’w wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, a hynny yn bennaf wrth i Fyrddau Iechyd wella perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans, ond roeddwn yn falch iawn o weld gyda’m llygaid fy hun waith pwysig y tîm hwn yn cyflawni ar gyfer cleifion.”

Dywedodd Penny Durrant, Rheolwr Gwasanaeth Tîm Gofal Integredig Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o’r tîm hwn sy’n cyfeirio cleifion at y gwasanaethau mwyaf priodol gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â rhyddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

“Dyma’r parafeddygon a’r nyrsys sydd, yn draddodiadol, wedi helpu cleifion wyneb yn wyneb, ond sydd bellach yn defnyddio’u sgiliau mewn ffordd wahanol gan frysbennu cleifion dros y ffôn.

“Ar adeg pan fo’r pwysau’n fwy amlwg nag erioed, dyma enghraifft o’r Ymddiriedolaeth yn meddwl yn wahanol am y modd y mae’n darparu gwasanaethau.

Mae’n ymwneud â chwarae ein rhan ni i leddfu’r pwysau ar draws y system ehangach a gwella profiadau i’n cleifion.”