Justin Williams with Deputy Minister for Transport Mark Hooper-5

Tocynnau bws am £1 i bobl ifanc i'w hymestyn tan fis Mawrth 2027

£1 bus fares for young people extended to March 2027

  • Mae cynllun tocynnau bws am £1 ar gyfer pobl rhwng 5 a 21 oed wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2027.
  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod dros 9 miliwn o siwrneiau wedi'u gwneud o dan y cynllun ers ei lansio.

Mae'r tocynnau sengl £1 a thocynnau diwrnod £3 ar gael i bobl rhwng 5 a 21 oed gyda fyngherdynteithio, i'w defnyddio ar wasanaethau bws ledled Cymru a rhai llwybrau trawsffiniol.

Mae dros 9 miliwn o siwrneiau wedi'u gwneud ers dechrau'r cynllun ac mae dros 38,000 o gardiau fyngherdynteithio wedi'u cyhoeddi i bobl ifanc 16-21 oed. 

Cyflwynwyd y cynllun ym mis Medi 2025 ar gyfer pobl rhwng 16 ac 21 oed. Fe'i hymestynnwyd i blant rhwng 5 a 15 oed ym mis Tachwedd 2025.

Mae bellach wedi'i ymestyn eto, ar gyfer pob grŵp oedran cymwys, tan fis Mawrth 2027.

Daw'r estyniad wrth i'r tymor ysgol a choleg newydd ddechrau.

Mae Justin Williams, myfyriwr coleg 18 oed o Gaernarfon, yn defnyddio'r bws i deithio i'r coleg, i'w swydd ran-amser, ac i weld ffrindiau.

Meddai:

"Mae'r tocyn sengl £1 neu docyn diwrnod £3 wedi newid y ffordd dw i’n teithio. Dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos yr oeddwn i'n gallu mynd ar y bysiau oherwydd y gost, ond mae fyngherdynteithio wedi gwneud teithio ar fysiau yn fwy hygyrch ac yn haws.

"Dw i'n teithio ar fws i gyrraedd y coleg a'r gwaith ac i ddod adre, a dw i hefyd yn defnyddio'r gwasanaeth i edrych ar fysiau, fel rhywun sy'n ymddiddori mewn trafnidiaeth.

"Mae'r bws yn fy helpu i weld fy ffrindiau, mynd i'r coleg a mynd i'r gwaith.

"Gyda fyngherdynteithio, dw i wedi gallu teithio cyn belled ag Aberystwyth a Wrecsam. Mae'n cynnwys Cymru gyfan, felly mi alla i deithio bron i unrhyw le. Dw i hefyd wedi ei ddefnyddio ar gyfer taith bws yng Nghaerdydd pan es i lawr ar y trên.

"Mae'r tocyn bws £1 wedi cael effaith sylweddol ar fy mywyd. Mae'n golygu y galla' i fynd allan yn rheolaidd a gweld fy ffrindiau heb boeni am arian."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:

"Mae'r cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl ifanc ledled Cymru, gan eu galluogi i wneud teithiau fforddiadwy ar gyfer gwaith, addysg a hamdden.

"Mae cyrraedd dros 9 miliwn o siwrneiau yn dangos faint o effaith mae'r cynllun wedi ei chael. Bydd ymestyn y cynllun tan fis Mawrth 2027 yn caniatáu i fwy o bobl ifanc elwa ar deithio fforddiadwy."

Pris tocynnau:

  • Sengl: £1.00
  • Tocyn dydd: £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws cymwys)

Mae angen FyNgherdynTeithio dilys ar bobl rhwng 16 a 21 oed i brynu tocynnau gostyngol. Rhaid dangos fyngherdynteithio i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws neu brynu tocyn.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer siwrneiau sy'n dechrau neu'n gorffen yng Nghymru. Ar wasanaethau trawsffiniol, mae'r tocyn yn ddilys hyd at y safle bysiau cyntaf yn Lloegr ac oddi yno, neu hyd at ddiwedd y llwybr ar rai gwasanaethau.