English icon English
Morella Explorer 2 Holyhead-2

Ton fawr o ymweliadau mordeithio â Chymru yn 2023

Wales sea-ing a big boost in cruise calls in 2023

Eleni, bydd Cymru’n croesawu’r nifer uchaf o fordeithiau hyd yma, gyda disgwyl i 91 o longau alw heibio i borthladdoedd yng Nghymru.

Bydd yr ymweliadau mordeithio’n cynnwys mwy nag 80,000 o deithwyr a 39,000 o griw, gan gynnig incwm a allai fod yn werth £8.3 miliwn i economi Cymru drwy wariant dydd teithwyr. 

Bydd ymweliadau cyntaf tymor 2023 ar 6 Ebrill, pan fydd yr Hurtigruten Spitzbergen yn hwylio i Abergwaun, tra bydd y Viking Venus yn hwylio i Gaergybi.

Am y tro cyntaf eleni, bydd Caergybi yn croesawu llong fawreddog MS Queen Victoria ym mis Mehefin – sef ymweliad cyntaf y llong, a all gludo 3,000 o deithwyr, â’r porthladd ers perchnogaeth newydd Stenaline o’r porthladd dŵr dwfn yng Nghaergybi.

Mae mordeithiau yn fusnes mawr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru/Cruise Wales wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a hyrwyddo syniadau newydd ar gyfer teithiau o fewn Cymru i deithwyr, gan arddangos mwy o atyniadau’r wlad i longau mordeithio a threfnwyr lleol. Mae’r daith Arian, Glo ac Iechyd Da a grëwyd gan Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, Y Bathdy Brenhinol a Chastell Hensol yn ne Cymru yn enghraifft o fusnesau yn cydweithio i ddatblygu taith ddydd wreiddiol a chyffrous.

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn seilwaith hefyd wedi helpu i ddenu mwy o ymweliadau mordeithio i alw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dyfarnu £147,000 trwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn 2017 ar gyfer adeiladu pontŵn tendio arbennig ar gyfer llongau mordeithio a chyfleusterau glanio cysylltiedig yn Harbwr Abergwaun, sydd wedi denu llongau mordeithio mwy i’r porthladd.

Er mwyn datblygu llwyddiant 2023 ymhellach, bydd Cruise Wales yn mynychu’r gynhadledd a’r arddangosfa Seatrade Global yn Fort Lauderdale, Florida ddiwedd mis Mawrth. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i gwrdd â phenderfynwyr allweddol o gwmnïau mordeithio ar draws y byd ac annog twf pellach o ran yr hyn y gallwn ei gynnig i fordeithiau yng Nghymru. 

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, sy’n gyfrifol am dwristiaeth yn Llywodraeth Cymru:

“Mae’n newyddion gwych ein bod yn gweld twf mor sylweddol yn nifer yr ymweliadau mordeithio â Chymru eleni.

“Mae Cymru yn lle mor hardd i ddod ar ymweliad, gyda dewis enfawr o brofiadau ar gael sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o chwaethau a diddordebau. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda busnesau yn y sector twristiaeth i sicrhau bod ymwelwyr yn gweld y gorau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

“Wrth gwrs, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol, ond mae gweld y nifer uchaf o ymweliadau mordeithio hyd yma yn adferiad gwych ac yn dyst i waith caled y bartneriaeth Cruise Wales. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i Gymru yn ystod y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line: “Mae’n galonogol iawn gweld llongau mordeithio a gwesteion yn dychwelyd i borthladdoedd Caergybi ac Abergwaun a’r nifer ohonynt yn cynyddu, gan ddenu mwy o ymwelwyr i ogledd a gorllewin Cymru. Credwn, trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau porthladdoedd, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r cymunedau lleol ar y cyd, y bydd y cynnydd hwn yn parhau, gan ledaenu’r budd economaidd i’r ardal ehangach.”