English icon English

Trafod costau byw, Wcráin a newid hinsawdd yn uwchgynhadledd arweinwyr Prydain ac Iwerddon

Cost of living, Ukraine & climate change all on the agenda at British & Irish summit

Heddiw (dydd Gwener 8 Gorffennaf), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymuno ag arweinwyr eraill Prydain ac Iwerddon yn Guernsey wrth i'r argyfwng ynghylch dyfodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i ddatblygu.

Bydd yr arweinwyr yn cyfarfod i drafod yr argyfwng costau byw, newid hinsawdd, cymorth i bobl o Wcráin a Phrotocol Gogledd Iwerddon yn 37fed uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Yr uwchgynhadledd yw’r cyfarfod cyntaf rhwng Prif Weinidogion a phrif arweinwyr y DU a Taoiseach Iwerddon ar ôl i Brif Weinidog y DU gyhoeddi y byddai'n ymddiswyddo.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Pwrpas y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yw meithrin perthynas waith gref rhwng yr holl lywodraethau dan sylw – a dyna fyddwn ni'n ei wneud heddiw.

"Rydyn ni yma i wneud y gwaith difrifol o gydweithio i wneud pethau'n well i bobl ein gwledydd a'n hynysoedd.

"Byddwn yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw a’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ran Protocol Gogledd Iwerddon, ac yn trafod hefyd y camau sydd wedi’u cymryd i groesawu pobl o Wcráin.

"Dyna'r hyn y dylai Llywodraeth y DU fod yn canolbwyntio arno. Mae’r hyn a welwyd  dros y misoedd diwethaf yn fwy na hanes ffawd un person – gwelwyd chwalfa llywodraeth briodol ac effeithiol yn Llundain. Rydyn ni i gyd yn haeddu gwell."