Treth gyngor decach i Gymru
Fairer council tax for Wales
Mae cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru yn anelu at wneud y dreth gyngor yng Nghymru yn decach.
Byddai’r diwygiadau, sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, yn sicrhau dull mwy blaengar o gefnogi’r gwasanaethau lleol y mae’r dreth gyngor yn helpu i dalu amdanynt, gan gynnwys ysgolion, darparu gofal cymdeithasol, plismona, gwasanaethau tân ac achub, a seilwaith ffyrdd.
Mae’r cynigion yn cynnwys ymarfer ailbrisio i sicrhau bod pobl yn talu’r lefel gywir o dreth.
Mae’r dreth gyngor yn talu am oddeutu 20% o wariant cynghorau, ond mae’r system bresennol bron i ugain mlynedd ar ei hôl hi ac yn cyfrannu at anghydraddoldebau cyfoeth. Gall gwerth cartrefi yn y band treth uchaf fod naw gwaith yn fwy na gwerth cartrefi yn y band gwaelod, ac eto talu dim ond tair gwaith a hanner yn fwy o dreth gyngor.
Y weledigaeth sy’n cael ei lansio heddiw yw system yn y dyfodol sy’n ailgydbwyso’r baich treth ar aelwydydd, sy’n ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, ac sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd i sicrhau bod y dreth yn parhau i fod yn deg.
Mae’r cynigion yn cynnwys cynnal ymarfer ailbrisio ar bob un o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru i sicrhau bod prisiadau yn gyfoes a bod pobl yn talu’r swm priodol. Byddai hyn yn galluogi bandiau gwahanol i gael eu creu gyda chyfraddau treth newydd yn cael eu dewis ar gyfer pob band, gan sicrhau treth decach.
Diben yr ailbrisio fyddai ailgydbwyso’r dreth sy’n daladwy rhwng aelwydydd. Roedd yr ailbrisio diwethaf yng Nghymru yn 2003. Er bod gwerth cartrefi wedi cynyddu’n sylweddol ers hynny, byddai’r system yn un gymharol o hyd, felly ni fyddai gwerthoedd eiddo uwch o reidrwydd yn arwain at dreth gyngor uwch.
Mae ymgynghoriad cychwynnol ar y diwygiadau wedi dechrau heddiw a bydd ar agor am 12 wythnos.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Mae’r dreth gyngor yn talu am wasanaethau lleol hanfodol yr ydyn ni gyd yn dibynnu arnyn nhw, ond mae’r ffordd y mae’r dreth yn cael ei chodi ar hyn o bryd yn cael effaith anghymesur ar bobl lai cefnog.
“Bydd y diwygiadau hyn yn diweddaru system y dreth gyngor ac yn ei gwneud yn decach, gan olygu y bydd y dreth gyngor yn achosi llai o bryder i aelwydydd sy’n teimlo’r wasgfa ar eu cyllidebau. Nid bwriad y diwygiadau yw codi mwy o arian gan dalwyr y dreth gyngor yn gyffredinol oherwydd, er y gallai rhai pobl dalu mwy, byddai llawer o bobl eraill yn talu llai, a byddwn ni’n ystyried yr angen am drefniadau trosiannol ar gyfer unrhyw newidiadau.
“Rydyn ni’n cydnabod bod y gwaith hwn yn sylweddol a bod gennym lawer iawn i’w wneud cyn cyflwyno unrhyw newidiadau. Mae hi’n ddyddiau cynnar o ran y cynigion hyn felly byddwn i’n annog pobl i ddweud eu dweud drwy’r ymgynghoriad.”
Mae diwygio’r dreth gyngor yn un o ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell:
“Mae’r dreth gyngor ymysg y ffurfiau mwyaf annheg o drethu ac mae wedi hen ddyddio. Mae’n rhoi baich trymach ar rai o’r aelwydydd sydd ag incwm is ac yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotaf Cymru. Mae’n bryd ei gwneud yn decach ac mae’r cynigion yr ydyn ni wedi cytuno arnyn nhw yn cynnig cyfle i wneud yr union beth hwnnw.
“Y cynigion hyn yw’r cam cyntaf tuag at newid system y dreth gyngor a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, drwy wneud y system yn decach a mwy blaengar wrth barhau i gefnogi’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.”
Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan:
“Mae’r dreth gyngor yn ffynhonnell bwysig o gyllid i’n holl wasanaethau lleol o ysgolion a gwasanaethau gofal, i gasglu sbwriel a thrafnidiaeth.
“Mae’n cyfrif am oddeutu 20% o holl wariant cynghorau, sy’n swm sylweddol, ac mae’n hanfodol bod y dreth leol yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a’i bod yn deg. Nid yw treth sydd wedi’i seilio ar werthoedd eiddo bron i 20 mlynedd yn ôl yn gallu bod yn deg a rhaid mynd i’r afael â hynny. Rhaid gwneud y system yn deg ar draws yr ystod o incymau aelwydydd.
“Bydd angen ystyried unrhyw gynnig yn ofalus o gofio nodweddion arbennig y farchnad dai leol, a byddwn ni’n gweithio gyda Gweinidogion i sicrhau y gallwn ni roi’r newid pwysig hwn ar waith.”