English icon English

Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog

Three months to go: Deputy Minister says 20mph switch will save lives and build stronger communities

Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym.

Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth.

Daw’r newid ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i baratoi’r gyfraith newydd, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd lleol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Rydyn ni brin tri mis o’r newid mwyaf rydym wedi’i weld yn maes diogelwch y gymuned yng Nghymru mewn cenhedlaeth.

“Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol.  Rydym yn gofalu am ein gilydd ac yn ymddiried yn y wyddoniaeth.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cerbyd sy’n teithio 30mya yn dal i fynd 24mya yn yr amser y daw car sy’n teithio 20mya i stop.

“Yn ogystal ag achub bywydau, mae gyrru’n arafach yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy diogel – llefydd gwell i fyw ein bywydau ynddyn nhw. 

Mae’r newid hwn yn dilyn cam tebyg yn Sbaen lle cafodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd ei newid i 30km/a yn 2019.

Ers hynny, mae 20% yn llai o farwolaethau wedi’u cofnodi ar ffyrdd trefol yn Sbaen, gyda 34 y cant yn llai o feicwyr a 24 y cant yn llai o gerddwyr yn cael eu lladd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog, "Bydd ein strydoedd yn dawelach, gyda llai o lygredd sŵn a bydd cerbydau arafach yn rhoi’r hyder i bobl feicio a cherdded a phlant i chwarae yn yr awyr agored”, 

 “Mae’r dystiolaeth o bob cwr o’r byd yn glir – mae gostwng terfynau cyflymder yn gostwng gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau.

“Rwy’n hyderus, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud y newidiadau sydd eu hangen ddaw â budd i ni nawr ac yn y dyfodol.

Dengys ymchwil y gallai terfyn cyflymder o 20mya arbed £92m y flwyddyn i ni wrth i lai gael eu lladd a’u hanafu. Gallai hefyd leihau’r pwysau ar y GIG wrth i’r nifer sy’n cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ostwng.

Dros y degawd cyntaf, amcangyfrifir y bydd y terfyn cyflymder is yn achub hyd at 100 o fywydau, gydag 20,000 yn llai yn cael eu hanafu.

Dywedodd Joshua James, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Living Streets Cymru:

“Bydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar ein strydoedd yn gwella’r llefydd rydym yn byw, yn gweithio ac yn mynd i’r ysgol ynddyn nhw – ac yn bwysicach na dim, bydd yn achub bywydau.  

“Yn Living Streets, rydym am i bawb yn ein cymunedau elwa ar fanteision cerdded a beicio – nawr ac am flynyddoedd i ddod. Mae ymchwil yn dangos bod mwyafrif pobl Cymru’n cefnogi 20mya ac rydym yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud ein strydoedd a phalmentydd yn lleoedd diogel a hygyrch i bawb.”

Dywedodd y Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

 “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bleidiol iawn i’r rheol 20mya, a fydd yn gweddnewid y lleoedd rydym yn byw, gweithio ac yn teithio ynddyn nhw. Mae’r dystiolaeth yn glir bod arafu’r traffig yn esgor ar lawer o fanteision o ran iechyd a lles. Mae’n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, yn lleihau llygredd sŵn a thros amser, bydd yn lleihau llygredd aer. Bydd yr amgylchedd mwy diogel a ddaw yn sgil traffig arafach yn annog mwy o bobl i deithio’n egnïol er enghraifft trwy gerdded a beicio i’r gwaith a’r ysgol.

 “Mae teithio egnïol yn cynnig pob math o fanteision i bob rhan o gymdeithas, trwy wella iechyd corfforol a meddyliol a lleihau’r galw ar ein gwasanaethau iechyd i drin llawer o afiechydon y gellir eu hosgoi.”