Trigolion Aberdaugleddau yn helpu i lunio rhwydwaith cymorth llifogydd cenedlaethol newydd yn dilyn llifogydd yn eu hardal
Flood-hit Milford Haven residents to help shape new national flooding support network
- Bydd Grŵp Llywio'n cael ei sefydlu i helpu i greu corff annibynnol i gynnig cefnogaeth ymarferol i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymweliad ag Aberdaugleddau, lle mae amddiffynfeydd llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu.
- Bydd aelodau newydd yn cael eu penodi i'r pwyllgor sy'n cydlynu'r strategaeth llifogydd ledled Cymru.
Yn dilyn llifogydd yn eu hardal mae trigolion Aberdaugleddau yn helpu i lunio'r cam nesaf yn ymateb cenedlaethol Cymru i lifogydd, wrth i Lywodraeth Cymru atgyfnerthu'r cymorth i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Ymwelodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, ag Aberdaugleddau yr wythnos hon i glywed yn uniongyrchol gan bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan lifogydd, ac i weld y cynnydd ar amddiffynfeydd llifogydd newydd y cymunedau.
Llifogydd yw un o'r arwyddion mwyaf amlwg bod yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur eisoes yn effeithio ar bobl; yn eu cartrefi, eu strydoedd, eu busnesau a'u cymunedau. Yn ystod yr ymweliad, tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd gwrando ar bobl sydd â phrofiadau go iawn, wrth i Gymru atgyfnerthu'r cymorth ymarferol sydd ar gael i gymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd.
Roedd yr ymweliad yn nodi ymrwymiad arall a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ei 100 diwrnod cyntaf: sef dod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau brys a grwpiau cymunedol at ei gilydd i fynd i'r afael â llifogydd fel un tîm.
Bydd cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Llywio newydd yn helpu i sefydlu Fforwm Llifogydd annibynnol yng Nghymru. Mae awdurdodau cyhoeddus, a phobl o sefydliadau ymateb a sefydliadau cymunedol wedi cael eu gwahodd i ymuno â'r grŵp yr wythnos hon.
Ar ôl ei sefydlu, bydd y Fforwm yn cefnogi Grwpiau Gweithredu ar Lifogydd ledled Cymru, gan helpu cymunedau i adfer ar ôl llifogydd a pharatoi ar gyfer llifogydd yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn penodi aelodau newydd i'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol i gyfrannu at Strategaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Wrth siarad o safle'r amddiffynfeydd newydd, dywedodd y Gweinidog:
"Mae cwrdd â phobl yn Aberdaugleddau sydd wedi dioddef llifogydd yn dangos yn gryf pam mae'r gwaith hwn yn bwysig. Wrth inni ddatblygu'r Cynllun Gweithredu ar Hinsawdd a Natur, dyma'r union fath o weithredu ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, y byddwn ni'n adeiladu arno, gan helpu pobl i baratoi, ymateb ac adfer wrth i effeithiau'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ddod yn fwy amlwg.
"Gallwn ni nawr ddechrau adeiladu Fforwm sy'n rhoi'r cymorth a'r llais sydd eu hangen ar gymunedau, cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
"Mae cryfhau arweinyddiaeth ein strategaeth llifogydd genedlaethol gysylltiedig drwy benodiadau pwyllgor newydd yn rhan bwysig arall o gael hyn yn iawn."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr a Chynghorydd Gorllewin Aberdaugleddau, y Cynghorydd Rhys Sinnett:
"Mae hwn yn brosiect arwyddocaol i gymunedau Havens Head a Lower Priory. "Mae trigolion wedi aros blynyddoedd lawer am ateb hirdymor yn dilyn y llifogydd dinistriol yn 2018, a bydd y cynllun hwn yn helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau a seilwaith hanfodol wrth wella gwydnwch yr ardal ar gyfer y dyfodol.
"Rydyn ni'n ddiolchgar am gymorth Llywodraeth Cymru a'n partneriaid prosiect wrth ein helpu i symud y cynllun lliniaru llifogydd pwysig hwn yn ei flaen."