Cabinet Minister for Education and Welsh Language

Troi uchelgais yn weithredu: camau pendant i gyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg

From ambition to action: concrete steps towards a million and more Welsh speakers

  • Ffocws ar gyflawni wedi blynyddoedd o siarad am uchelgais
  • Hanner plant Cymru i ddechrau eu siwrne mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
  • Gwaith eisoes wedi dechrau yn y 100 diwrnod cyntaf i gryfhau’r Gymraeg mewn ardaloedd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn troi uchelgais yn weithredu i sicrhau dyfodol cryfach i'r Gymraeg, meddai Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn y Senedd heddiw.

O'r blynyddoedd cynnar i addysg ôl-16, bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu llwybr cyfrwng Cymraeg di-dor ar draws y system addysg.

Bydd Deddf y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gweithredu'n llawn i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle teg i ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus. Mae adolygiad brys o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg eisoes ar y gweill. Bydd canfyddiadau’r adolygiad yn llywio’r fframwaith cenedlaethol i sicrhau bod hanner plant Cymru yn dechrau eu siwrne mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y Gymraeg yn rhan ganolog o'r cynnig trawsnewidiol o 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ehangu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ôl-16, gan alluogi mwy o bobl ifanc i barhau i ddysgu, gweithio a byw drwy'r Gymraeg.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau er mwyn cydweithio gydag awdurdodau lleol i bennu sut y dylid dynodi cymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg er mwyn helpu i gryfhau'r defnydd o'r iaith o fewn y cymunedau hynny. Ar yr un pryd, mae camau brys yn cael eu cymryd drwy ddefnyddio pwerau presennol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio'r holl fesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sydd eu hangen i gefnogi eu cynaliadwyedd hirdymor.

Rhaid i'r Gymraeg ffynnu hefyd mewn rhannau eraill o Gymru lle mae dwysedd canolig neu is o siaradwyr ar hyn o bryd. Mae gwaith yn digwydd ar draws y llywodraeth ar yr ymateb i ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Mae'r Gymraeg yn perthyn i'r Cabinet cyfan. O dai ac iechyd i drafnidiaeth, economi, tai a llywodraeth leol, i ddiwylliant a chwaraeon, mae gan bob portffolio ran i'w chwarae wrth gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg

Amlinellodd y Gweinidog hefyd fesurau i gryfhau'r seilwaith sy'n cefnogi'r Gymraeg. Bydd safonau'r Gymraeg yn cael eu hymestyn i sectorau newydd, gan gynnwys cyrff Llywodraeth y DU. Mae’r Gweinidog hefyd wrthi’n ysgrifennu at y cwmnïau technoleg mawr i sicrhau bod datblygiadau digidol yn cefnogi'r Gymraeg. Mae gwaith yn digwydd i safoni a chofnodi enwau lleoedd Cymraeg, tra bod opsiynau ar gyfer eu gwarchod drwy ddeddfwriaeth yn cael eu harchwilio.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan: "Mae pobl o bob cwr o Gymru yn falch o'n hiaith ac am ei gweld hi’n ffynnu. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae’n bryd rhoi’r gorau i weld ein hunain fel ‘Cymry Cymraeg’ a ‘di-Gymraeg’. Ry’n ni i gyd rywle ar yr un daith – ac mae croeso i bawb.

"Mae'r ewyllys da a'r uchelgais yn rhoi sylfaen gadarn inni, ond mae'r heriau'n real, a bydd y blynyddoedd nesaf yn dyngedfennol. Ein ffocws nawr yw troi’r uchelgais yn weithredu a sicrhau’r dyfodol cryfaf posibl i’r Gymraeg yn ein hysgolion, ein cymunedau a'n gweithleoedd. Ry’n ni eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o fewn ein 100 diwrnod cyntaf.”

“Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar bobl yn ogystal â pholisi. Rwy'n annog pawb i ddefnyddio pa Gymraeg bynnag sydd ganddyn nhw, i gefnogi ei gilydd i ddysgu a defnyddio'r iaith, ac i chwarae eu rhan wrth adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.”