Tyfu twristiaeth er lles Cymru
Growing tourism for the good of Wales
Ar Ddiwrnod Twristiaeth y Byd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn dweud ei fod am dyfu twristiaeth Cymru mewn ffordd sy'n cefnogi cymunedau, tir a phobl Cymru.
Ar ddydd Llun 27 Medi byddwn yn nodi Diwrnod Twristiaeth y Byd, sef diwrnod sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ar draws y byd o werth cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd twristiaeth.
Eleni, mae UNWTO (Sefydliad Twristiaeth y Byd) wedi dynodi Diwrnod Twristiaeth y Byd fel diwrnod i ganolbwyntio ar Dwristiaeth er budd Twf Cynhwysol. Dyma gyfle i ddathlu gallu unigryw twristiaeth i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac i edrych i'r dyfodol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er lles Cymru – twristiaeth sy'n cefnogi ein cymunedau ac sy'n gofalu am ein tir ac sydd o fudd i ymwelwyr a dinasyddion.
"Rydym ni, fel Llywodraeth, yn cymryd camau pendant i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach – i gyflawni cydbwysedd gofalus a thwristiaeth gyfrifol, gan sicrhau bod gweithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid cyrchfannau wrth wraidd tyfu twristiaeth er lles Cymru."
Mae'r cynllun a rennir ar gyfer adfer yr economi ymwelwyr yn nodi sut mae heriau'r pandemig hefyd yn cynnig cyfleoedd i fynd i'r afael â llawer o'r rhwystrau hirsefydlog i'r diwydiant megis – cyfyngiadau tymhorol, prinder staff a sgiliau.
Cyn bo hir, bydd Croeso Cymru yn lansio ymgyrch newydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ymweliadau ar gyfer yr hydref, y gaeaf ac ar gyfer 2022 yn ogystal â sefydlu dull tymhorol newydd o ymdrin ag ymgyrchoedd, gan gyflwyno Cymru fel cyrchfan sy’n ddelfrydol drwy gydol y flwyddyn gyda'r nod o ymestyn y tymor twristiaeth a chreu swyddi gydol y flwyddyn a thwf economaidd.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud Cymru'n gyrchfan arbennig yn ystod misoedd tawelach y flwyddyn, o'r tirweddau trawiadol a lliwiau newidiol yr hydref i'r profiadau a gweithgareddau unigryw ac amrywiol y gall pobl eu mwynhau yn ein hawyr agored gwych a’n trefi a dinasoedd. Y nod yw targedu'r farchnad yng Nghymru yn ogystal ag ymwelwyr newydd i Gymru o bob rhan o'r DU ac ailgysylltu ag ymwelwyr a allai fod wedi ymweld dros yr haf a'u hysbrydoli i ddychwelyd a phrofi Cymru ar adeg wahanol o'r flwyddyn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi: "Mae llawer o bobl wedi mwynhau ymweld â rhannau o Gymru eleni nad ydynt erioed wedi ymweld â nhw o'r blaen. Mae Cymru hefyd yn gyrchfan twristiaeth hardd yn yr hydref a'r gaeaf – ac mae'r ymgyrch yn edrych o'r newydd ar y tymhorau. Mae'n dathlu'r adegau cofiadwy sy'n digwydd oherwydd y tymhorau, nid er eu gwaethaf."
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â heriau o ran recriwtio yn y sector, bydd ymgyrch recriwtio lletygarwch Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau drwy gydol yr hydref.
Ymwelodd Gweinidog yr Economi â Zip World Tower yn gynharach eleni, a oedd newydd agor ar gyfer 2021, ac mae'r tîm bellach yn edrych ymlaen at hydref prysur, ac yn cynnig swyddi cynaliadwy i bobl yr ydym am iddynt weithio ym maes twristiaeth a lletygarwch. Dywedodd Andrew Hudson, Cyfarwyddwr Masnachol, Zip World: "Agorwyd ein drysau yn Zip World Tower yn ôl yn y Gwanwyn ac rydym yn cynllunio i'w cadw ar agor drwy gydol y flwyddyn oherwydd rydym yn credu nad oes angen i’r antur stopio pan ddaw’r haf i ben.
"Rydym yn falch o fod yn rhan o roi Cymru ar y map fel cyrchfan twristiaeth antur drwy gydol y flwyddyn a chredwn bydd y diwydiant yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae gweithredu dros yr Hydref a'r Gaeaf yn golygu ein bod wedi gallu dod â nifer o swyddi parhaol drwy gydol y flwyddyn i Dde Cymru ac rydym yn falch o allu recriwtio'n lleol a dod yn rhan o'r cymunedau lle rydym yn lwcus i fod wedi ein lleoli.
"Mae cymryd rhan yn ein hanturiaethau yn brofiad hollol wahanol yn yr hydref o'i gymharu â'r haf pan fydd tirweddau trawiadol ein safleoedd hanesyddol yn newid yn sylweddol, tra hefyd yn dawelach ac yn rhoi mwy o amser i ymwelwyr archwilio'r holl amrywiaeth naturiol anhygoel sydd gan Gymru i'w gynnig."