English icon English
Cab Sec Jeremy Miles with MOU signatories at genomics centre

Uchelgais Cymru i fod ar flaen y gad yn y maes genomeg gam yn agosach at gael ei gwireddu

Wales edges closer to being at the forefront of genomics expertise

Wedi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) lofnodi cytundeb newydd, uchelgeisiol i gydweithredu â chwmni technoleg gwyddoniaeth blaenllaw, mae Cymru yn agosach at gael hawlio ei lle fel gwlad sy’n arwain y ffordd yn y maes genomeg.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y GIG yng Nghymru a chwmni Illumina yn adeiladu ar ymchwil sy’n bodoli’n barod i brofion diagnostig canser yr ysgyfaint. Ehangu ymhellach i gynnwys mathau eraill o ganser yw’r uchelgais, a chynnwys meysydd genomeg ehangach hefyd, er mwyn ceisio atal afiechyd, rhoi diagnosis yn gynharach a darparu triniaethau wedi’u personoli.

Bydd yn cefnogi ymdrechion i wella’r datblygiadau ym maes technoleg, ac i ddatblygu dulliau a thriniaethau clinigol, meddyginiaethau a brechlynnau newydd yn ogystal â gwasanaethau i gefnogi gofal ataliol.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Illumina Cambridge Limited, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, ac mae wedi’i hwyluso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru.

Yn gynharach heddiw (7 Tachwedd), aeth Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ymweliad â Chanolfan Iechyd Genomig Cymru yng Nghaerdydd i gyfarfod â phartneriaid o Bartneriaeth Genomeg Cymru ac Illumina. Cafodd weld â’i lygaid ei hun sut mae Cymru yn ymdrechu i arwain y ffordd yn y maes hwn.

Dywedodd: “Mae potensial gan y cytundeb hwn i wneud gwahaniaeth enfawr i ofal canser ataliol i bobl yng Nghymru.

“Ein huchelgais ni yw gweld Cymru ar flaen y gad ym maes genomeg. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn arwydd o’n hymdrechion i sefydlu partneriaeth strategol rhwng y diwydiant a’r dalent a’r dyfeisgarwch sydd wedi’u meithrin yma yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i arwain y ffordd ac i ddod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n credu y bydd gweithio gyda’n gilydd gan gyfuno gwybodaeth ac arbenigedd, yn ogystal â defnyddio’r adnoddau prin sydd ar gael inni mewn ffordd well, yn hybu ymchwil i’r sector.”

Dywedodd Suzanne Rankin, Uwch-swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru:

“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous ar gyfer y maes meddygaeth genomeg, ac rwy’n credu bod cydweithrediad strategol rhwng y sefydliadau hyn yn gyfle gwych i Gymru barhau i gryfhau ei safle yn y maes hwn.

“Bydd llofnodi’r cytundeb hwn yn cefnogi pawb sy’n cydweithredu i weithio ochr yn ochr â’i gilydd i gyflawni set gyffredin o amcanion, gan sicrhau bod y gofal gorau ar gael i gleifion a gwella lles y boblogaeth ehangach ar yr un pryd.” 

Dywedodd Mark Robinson, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Illumina, y DU ac Iwerddon, a Gogledd Ewrop:

“Mae Illumina wedi ymrwymo i gydweithredu i ddatblygu’r maes meddygaeth genomeg.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ein galluogi i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a threialon clinigol cydweithredol ar lefel ddyfnach eto. O ganlyniad, bydd gennym y potensial i achub bywydau drwy sicrhau bod profion genomig yn dod yn rhan annatod o ofal rheolaidd.”

Nodiadau i olygyddion

Pic caption: Cabinet Secretary for Health Jeremy Miles (third right) with MOU signatories (from left) David Fluck (Cardiff and Vale Uni Health Board), Charles Janczewski (Cardiff and Vale Uni Health Board), Meng Khaw (PHW), Mark Robinson (PHW) and Rachel Errington (Cardiff University)

Genomics Delivery Plan for Wales (2022-25)

The MoU outlines a shared vision to foster co-production in genomics and promote seamless integration across the health and social care system in Wales.

The envisioned collaboration seeks to provide numerous benefits, including:

  • Improved Shared Understanding - Enhanced cross-partner access to centres of excellence and genomics networks to support partners in fostering a deeper understanding of individual work programmes and processes.
  • Strategic Collaboration - Opportunities for joint-working on projects to reduce duplication of work across organisations whilst facilitating the engagement of a broader range of stakeholders and the improvement of existing programmes of work.
  • Economies of Scale and Scope - Partners will be better able to combine resources and share the benefit of evidence-based practices; to achieve greater efficiency in genomics research and application.
  • Knowledge Exchange - Promoting cross-partner knowledge sharing as well as sharing across the broader genomics ecosystem to lead to higher quality technological outputs, improved access to training, and more effective approaches to opportunities and challenges.
  • Professional Development - Improved options for individuals when seeking training and networking opportunities; allowing for easier sharing of skills and experience, and increased exposure to new areas of work.
  • Industry Development - Partners working side by side to identify further opportunities to develop the genomics industry in Wales, considering potential investment in new technologies, access to grants and sponsorships, and commercial opportunities.