English icon English
Lynne Neagle (P)

Uchelgais i gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030 – gyda smygu’n parhau i fod yn brif achos marwolaethau cyn pryd

Ambition to make Wales smoke-free by 2030 - as smoking remains the leading cause of premature deaths

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn rhannau allweddol o gynllun newydd i gael Cymru ddi-fwg erbyn diwedd y ddegawd.

Mae’r Dirprwy Weinidog Llesiant, Lynne Neagle wedi lansio ymgynghoriad heddiw (8 Tachwedd) ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-fwg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr. Targed y strategaeth yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu y bydd llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu.

Gydag oddeutu 14% o bobl yng Nghymru’n smygu, mae cysylltiadau cryf rhwng smygu ac amddifadedd, gyda’r rheini mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o smygu. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod unigolion â salwch meddwl tua dwywaith yn fwy tebygol o smygu na phobl nad oes ganddynt gyflyrau iechyd meddwl.

Eleni, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno meysydd chwarae, tiroedd ysgol a thiroedd ysbytai di-fwg. Y flwyddyn nesaf (ar 1 Mawrth 2022) bydd ystafelloedd lle caniateir smygu mewn gwestai a thai llety yn cael eu gwahardd, ac ni fydd smygu’n cael ei ganiatáu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol fel bythynnod, carafanau a lletyau AirBnB. Mae gwneud mwy o fannau cyhoeddus yn ardaloedd di-fwg yn diogelu pobl rhag mwg ail-law niweidiol, ond mae hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau mai ardaloedd di-fwg yw’r ‘norm’ a chefnogi mwy o smygwyr i roi’r gorau iddi.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn barn pobl ynglŷn â sut i greu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru yn ogystal â barn ar y camau gweithredu manwl a nodwyd yn y cynllun cyflawni dwy flynedd cyntaf.

Bydd y strategaeth hefyd yn edrych ar sut y gellir rhoi cymorth ychwanegol i helpu mwy o bobl i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, sydd am ddim gan y GIG, yn ogystal â chynlluniau i ehangu’r cymorth ar gyfer smygwyr sydd yn yr ysbyty. Gellir gofyn i sefydliadau a ariennir gan arian cyhoeddus i fod yn ddi-fwg hefyd a chefnogi eu gweithlu i gael cyngor a chymorth i roi’r gorau i smygu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant , Lynne Neagle: “Ein huchelgais yw cael Cymru ddi-fwg a chefnogi pobl i wneud dewisiadau i wella eu hiechyd a’u llesiant. Mae Cymru wedi arwain y ffordd drwy fod y rhan gyntaf o’r Deyrnas Unedig i wahardd smygu mewn rhai mannau cyhoeddus, gan gynnwys meysydd

chwarae cyhoeddus a thiroedd ysgolion lle mae plant a phobl ifanc yn treulio’u hamser hamser, ond gwyddom fod angen inni wneud mwy i gryfhau ein neges ddi-fwg, yn enwedig ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a newid y ffordd y maen nhw a’r gymdeithas ehangach yn meddwl am smygu.

Mae smygu’n parhau i fod yn brif achos marwolaethau cyn pryd yma yng Nghymru ac yn un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y bobl sy’n smygu, hoffem fynd ymhellach a bod yn uchelgeisiol gan greu Cymru lle nad smygu yw’r ‘norm’ o bell ffordd.

Hoffwn annog pobl i rannu eu barn ar yr ymgynghoriad hwn a helpu i siapio penderfyniadau’r dyfodol.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton: “Mae smygu yn eithriadol o niweidiol i iechyd. Yn 2018 cafodd oddeutu 5,600 o farwolaethau ymhlith pobl 35 oed a hŷn a 28,000 o dderbyniadau i’r ysbyty eu priodoli i smygu. Mae angen inni gydweithio fel cymdeithas, gan gynnwys y llywodraeth, gweithwyr iechyd proffesiynol a chymunedau i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth posibl i fynd i’r afael â smygu a lleihau salwch o ganlyniad i smygu. Rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu i ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim GIG Cymru, Helpa fi i Stopio i gael cymorth a chefnogaeth.”