English icon English

Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Cyhoeddus

Public Transport Summit

Heddiw, yn ystod Uwchgynhadledd gyntaf erioed Cymru ar Drafnidiaeth Gyhoeddus, mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ddatgelu gweledigaeth gyffrous, uchelgeisiol a hirdymor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru.

Wrth siarad ag arbenigwyr o bob rhan o’r sector mae disgwyl iddo amlinellu cynlluniau i ddatgloi potensial economaidd Gogledd Cymru ac atgyfnerthu’r cysylltiadau trawsffiniol.