Diwrnod y Rhuban Gwyn: dynion yn helpu i wneud Cymru yn lle mwy diogel i fenywod
White Ribbon Day: men helping make Wales safer for women
- Mae llysgenhadon Iawn a'r Rhuban Gwyn yn cydweithio â bechgyn a dynion ifanc ar gynghreirio, perthynas iach a gwrywdod cadarnhaol.
- Bydd strategaeth genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cael ei chyhoeddi yr haf nesaf a bydd yn canolbwyntio ar fesurau ataliol.
- Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd. Mae'n annog dynion a bechgyn i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Mae bechgyn a dynion ifanc mewn ysgolion, clybiau chwaraeon a charchardai ledled Cymru yn dysgu am gynghreirio a pherthynas iach gan lysgenhadon sydd wedi'i hyfforddi gan Iawn a Rhuban Gwyn.
Mewn partneriaeth â Rhuban Gwyn, hyfforddodd Llywodraeth Cymru 20 o ddynion i ddechrau sgyrsiau am ymddygiad niweidiol, perthynas iach a gwrywdod cadarnhaol.
Mae Iawn yn annog dynion i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac ymddygiadau iach, ac i siarad â'u cyfoedion.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1.2 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw a £1.2 miliwn arall mewn cyllid cyfalaf yn 2027/28, i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched a diogelu gwasanaethau arbenigol i oroeswyr.
Wrth nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn heddiw, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
"Ni ddylai menywod a merched byth orfod teimlo'n anniogel yng Nghymru.
"Wrth i ni gynyddu'r buddsoddiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, rydym hefyd yn canolbwyntio ar atal cam-driniaeth cyn iddo ddechrau. Bydd ein strategaeth genedlaethol newydd ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cael ei chyhoeddi yn yr haf y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhoi pwyslais ar atal fel rhan o ymateb system gyfan, gan gydnabod bod atal trais yn dechrau wrth drafod â dynion a bechgyn cyn i niwed ddigwydd.
"Drwy hyfforddi dynion sydd eisoes yn cydweithio â phobl ifanc, rydym yn eu helpu i siarad yn agored am fod yn gynghreiriaid da, perthynas iach a gwrywdod cadarnhaol. Rwy'n diolch i bob llysgennad Iawn a'r Rhuban Gwyn am ein helpu i greu Cymru fwy diogel i bawb."
Cafodd Dan Ley ei wahardd o'r ysgol yn ei arddegau. Bu chwaraeon o gymorth i newid ei ymddygiad, ac mae bellach yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu gwahardd.
Ar ôl hyfforddi fel llysgennad, aeth Dan ati i ddatblygu gweithdai ar y manosffer a gwrywdod ar gyfer ysgolion a chreu cwricwlwm ar gyfer troseddwyr ifanc mewn carchardai. Mae hefyd yn defnyddio ei hyfforddiant Iawn i gefnogi Gloves Off, Kettle On, noson iechyd meddwl fisol yn ei glwb bocsio lleol.
Dywedodd Dan Ley:
"Mae hyfforddiant Iawn a'r Rhuban Gwyn wedi agor drysau i mi gael sgyrsiau â sefydliadau, ysgolion a phobl ifanc am berthynas iach, ymddygiadau ar-lein, a'r manosffer.
"Mae pobl yn ymateb yn dda i bethau maen nhw'n uniaethu â nhw. Wrth dyfu gwelais amryw i berthynas afiach. Ond nawr rydw i wedi bod mewn perthynas hapus ac iach am y 20 mlynedd diwethaf. Mae hyn, yn ogystal â'r hyfforddiant Iawn, wedi fy ngalluogi i ddatblygu a chyflwyno sgyrsiau a gweithdai sy'n cysylltu'n ddiffuant gyda bechgyn a dynion ifanc."
Ar ôl gadael addysgu oherwydd heriau iechyd meddwl, sefydlodd Lloyd Stone Our Minds Together i gefnogi tadau newydd a'r rhai oedd yn mynd i fod yn dadau a chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad. Mae wedi defnyddio hyfforddiant Iawn i wella ei raglen Wellbeing Champions a hyrwyddo diwylliannau clwb mwy cynhwysol.
Dywedodd Lloyd Stone:
"Yn Our Minds Together, rydyn ni'n gweithio gyda dynion, tadau a chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad i wella iechyd meddwl ac emosiynol. Drwy ein rhaglen Wellbeing Champions, rydyn ni'n creu amgylchedd gefnogol lle mae holl randdeiliaid y clwb yn cael eu hannog i siarad mwy, gan helpu i feithrin llythrennedd emosiynol a hunanymwybyddiaeth o oedran ifanc."
"Rydyn ni'n creu lle ar gyfer sgyrsiau cadarnhaol, myfyriol am iechyd meddwl, perthynas iach a gwrywdod. Mae hyfforddiant llysgennad Iawn a'r Rhuban Gwyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth gryfhau'r gwaith hwn, gan roi'r hyder imi arwain y trafodaethau pwysig hyn."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Rhuban Gwyn y DU, Lynne Elliot:
"Mae Llysgenhadon Iawn a'r Rhuban Gwyn fel Dan a Lloyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ddechrau sgyrsiau am berthynas iach, gwrywdod cadarnhaol a chynghreirio.
"Mae ymgyrch Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni, It Takes All of Us, yn tynnu sylw at sut y gall pawb herio rhywiaeth, boed yn y gwaith, ymhlith ffrindiau neu ar-lein."
Nodiadau i olygyddion
To learn more about how to take action, visit Sound.
The Live Fear Free helpline is available 24 hours a day. For support and advice:
• Call free: 0808 8010 800
• Text: 0786 007 7333
• Email: info@livefearfreehelpline.wales
• Live chat: via the website
If you’re in immediate danger and cannot talk safely, dial 999 followed by 55 to alert the police.
White Ribbon UK - Learn about White Ribbon Day — White Ribbon UK