Wrecsam yn cyhoeddi ffyrdd cyntaf yng ngogledd Cymru i ddychwelyd i 30mya
Wrexham announces first north Wales roads to return to 30mph
Dwy ffordd yn Wrecsam yw'r cyntaf yng ngogledd Cymru i ddychwelyd i 30mya yn dilyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn 2023.
Mae'r B5605 Ffordd Wrecsam/Stryd Fawr, yn Nhre Ioan a'r A525 Ffordd Bryn-y-Grog wedi dychwelyd i 30mya yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Y ddwy ffordd yw'r gyntaf o 52 rhan o'r briffordd lle bydd y terfyn cyflymder yn cael ei newid i 30mya gan Gyngor Sir Wrecsam, yn dilyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod 20mya yn cael ei dargedu ar y ffyrdd cywir.
Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates â'r Cynghorydd Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd ar Ffordd Wrecsam. Dywedodd:
"Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau anafiadau - ac rydym yn gwybod bod tystiolaeth eang ei fod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â chael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, gan adeiladu o'r consensws eang bod 20mya yn iawn lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae.
"Rwy'n falch bod Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gadw cydbwysedd ac wedi dechrau gwneud y newidiadau yn dilyn adborth gan bobl leol. Mae ein canllawiau wedi'u diweddaru yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried gwneud newidiadau lle mae'n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny."
Dywedodd y Cynghorydd Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd:
"Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder yn dilyn ein proses ymgynghori a phenderfyniad y Bwrdd Gweithredol. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cyflwyno newidiadau i gyflymder o 20mya i 30mya yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru."