English icon English
13.10.23 mh Day 1 Wales Tech 41-2

Wythnos Dechnoleg Cymru: Llywodraeth Cymru yn ymuno ag Innovate UK i sefydlu diwylliant arloesi yng Nghymru

Wales Tech Week: Welsh Government teams up with Innovate UK to embed culture of innovation in Wales

Heddiw (dydd Llun, 16 Hydref) mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu y cynllun gweithredu cyntaf o'i fath rhwng gwlad ddatganoledig ac Innovate UK sy'n nodi sut y bydd Cymru'n adeiladu economi arloesi gryfach.

Wrth siarad ar ddechrau Wythnos Dechnoleg Cymru yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, ymunodd Prif Swyddog Gweithredol Innovate UK, Indro Mukerjee, â'r Gweinidog i lansio'r Cynllun Arloesi Cydweithredol ar y cyd. 

Nod y cynllun yw defnyddiio ysbryd arloesol y wlad, gan helpu busnesau a sefydliadau i rannu syniadau a defnyddio technolegau newydd.

Mae'n dilyn yr ymrwymiadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, gan adeiladu ar  gytundeb Memorandwm cyd-ddealltwriaeth Llywodraeth Cymru ac Innovate UK ym mis Ebrill.

Mae'r cynllun hwnyn dod a'r ddwy ochr gam yn nes at eu huchelgais gyffredin o gynyddu buddsoddiad arloesi ac ennill mwy o gyllid cystadleuol ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru trwy nodi camau gweithredu a cherrig milltir pendant i weithio tuag atynt.

Mae tri maes ffocws yn cynnwys:

  • Sicrhau bod gan entrepreneuriaid, busnesau, y byd academaidd, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru lwybr syml, cysylltiedig, gweladwy ac effeithiol i gael mynediad at ddulliau o dderbyn cymorth arloesedd.
  • Sicrhau bod rhanddeiliaid arloesi yng Nghymru yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt a thrafod â hwy i gynyddu nifer, amrywiaeth ac effaith gadarnhaol busnesau sy'n arloesi yng Nghymru.
  • Defnyddio data i ddeall demograffeg cymuned arloesi Cymru a mynd ati i geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at gymorth arloesedd.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn o lansio ein Cynllun Arloesi Cydweithredol ar ddechrau Wythnos Dechnoleg Cymru mewn digwyddiad sy'n llawn rhai o'r bobl a'r busnesau mwyaf creadigol a blaengar ym maes technoleg.

"Yn eu plith mae arbenigwyr o bob rhan o ranbarthau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Catalonia, Fflandrys, Gwlad y Basg, Silesia a Quebec, sy'n rhoi cyfle perffaith i ni ddangos y cynnydd rydym yn ei wneud tuag at y nodau a amlinellir yn ein Strategaeth Arloesi, 'Cymru'n Arloesi'.

"Fu Cymru erioed yn brin o uchelgais ac mae'r cynllun hwn yn cydnabod y cryfderau a'r cyfleoedd ar gyfer twf yn ein heconomi.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau arloesedd a'r defnydd o dechnolegau newydd, a all gefnogi Cymru wyrddach, gyda gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Innovate UK, Indro Mukerjee:

"Rydym yn lansio'r Cynllun Arloesi Cydweithredol a fydd yn cefnogi twf economaidd Cymru ac yn meithrin gwell arloesedd. Mae tîm Innovate UK a minnau'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r Gweinidog Vaughan Gething a'i dîm i gyflawni cynllun uchelgeisiol gyda mentrau ar y cyd, gan ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i fusnesau Cymru."

Bydd y digwyddiad ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru yn cynnwys sesiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial.. Fel rhan o'r rhaglen, bydd Llywodraeth Cymru yn dod â nifer o arbenigwyr rhyngwladol ynghyd o ranbarthau o bwysigrwydd strategol i Gymru i edrych sut y gall datrysiadau deallusrwydd artiffisial moesegol, teg a diogel fod o fudd i'n heconomi a'n cymdeithas ehangach.