Wythnos Gwaith Ieuenctid: Dros £1 miliwn i helpu sefydliadau i gefnogi pobl ifanc
Youth Work Week: Over £1 million to help organisations support young people
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei chymorth i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid i ymateb i alw mwy am wasanaethau, costau gweithredu uwch, a newid yn y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc yn sgil yr argyfwng costau byw.
Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fyw bywydau sy’n dod â bodlonrwydd, gan ddarparu llefydd a chydberthnasau er mwyn iddynt allu mwynhau, teimlo’n ddiogel, a theimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. I lawer o bobl ifanc sy’n agored i niwed, mae’r sefydliadau hyn yn cynnig llefydd diogel sydd ag oedolion dibynadwy i wrando arnynt. Gall y cyfleoedd unigryw a gynigir gan waith ieuenctid gefnogi pobl ifanc drwy ddatblygiadau mawr yn eu bywydau a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.
Bydd 18 o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Ieuenctid y Rhyl a MIND Casnewydd, yn cael mwy na £1 miliwn o gyllid ychwanegol drwy’r Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol ar gyfer 2023-25, sy’n dod â’r cyfanswm a ddyrannwyd ers i’r grant ddechrau ym mis Ebrill 2022 i fwy na £2.9 miliwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £13m o gyllid uniongyrchol i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid eleni – dros dair gwaith y swm cyfatebol yn 2018.
Bydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn derbyn £180,000 ychwanegol i’w galluogi i dreialu Cynllun Cymorth i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, gan ddarparu grantiau bach o hyd at £7,500 y sefydliad i ddiogelu’r gwasanaethau a gynigiant i bobl ifanc yn eu cymunedau.
Mae GISDA yn sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc agored i niwed yn y Gogledd. Maen nhw’n darparu llety i Vex, person ifanc sydd wedi gadael gofal. Caiff Vex gefnogaeth gweithiwr allweddol a chynghorydd personol i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, rheoli tenantiaeth a mynychu’r coleg. Mae hefyd yn elwa o gynllun peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru. Mae cymorth gan sefydliad gwaith ieuenctid wedi helpu Vex i fwynhau cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio, ac mae wedi ymddangos ar opera sebon Rownd a Rownd. Bydd Vex hefyd yn chwarae un o brif rolau cynhyrchiad gan GISDA a grŵp theatr ieuenctid Frân Wen.
Ar ddydd Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad Gwaith Ieuenctid Cymru i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid a dangos y camau sy'n cael eu cymryd gan y sector.
Dywedodd Jeremy Miles: “Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddarparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc lle cân nhw eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod angen gwasanaethau gwaith ieuenctid nawr yn fwy nag erioed. Dw i’n falch o allu darparu’r cyllid hwn i sefydliadau sydd â’r pŵer i newid bywydau pobl ifanc.”
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt: “Ddylai cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal ddim cael eu penderfynu gan amgylchiadau eu plentyndod. Mae’n wych clywed sut mae ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fel Vex sefydlu eu hannibyniaeth a chyflawni eu potensial.”
Nodiadau i olygyddion
Journalists and Camera Operators are invited to attend Youth Work Wales event at Wales Millennium Centre on June 27 at 2:00pm. The Minister for Education, youth work organisations and young people who benefit from youth work organisations will be present and available to interview. To confirm your attendance and for more details, please contact educationpressoffice@gov.wales
Full information on how organisations can apply for the Voluntary Youth Work Organisation Support Scheme is available here.