Y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn cychwyn cael ei weithredu ym mis Medi
Universal Free School Meals Roll-out to Commence in September
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd plant dosbarth Derbyn yn dechrau cael prydau ysgol am ddim mor gynnar â mis Medi.
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio Llafur/Plaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i weithredu’r ymrwymiad, sef bod holl ddisgyblion cynradd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran cyflwyno a gweithredu’r cynllun hyd ym. Mae Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru yn benderfynol o weithredu’r cynllun cyn gynted â phosibl, o gofio’r argyfwng costau byw, ac maent yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynnig yn cael ei gyflwyno cyn gyflymed ag y bo modd. Mae £225m wedi’i neilltuo ar gyfer hyn dros y tair blynedd nesaf.
O fis Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol ledled Cymru i’w helpu i gychwyn cynnig prydau ysgol maethlon, am ddim, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn barod i gychwyn y cynnig ym mis Medi, er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru yn elwa ar y cynnig cyn gynted â phosibl.
Bydd hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant mewn dosbarthiadau Derbyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd o fis Medi.
Erbyn mis Ebrill 2023 bydd y rhan fwyaf o blant ym Mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim, gydag awdurdodau lleol yn cael yr hyblygrwydd, y cymorth a'r cyllid i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim i'r rhai ym Mlynyddoedd 1 a 2 yn gynharach nag Ebrill os oes modd.
Bydd y flwyddyn gyntaf hon yn canolbwyntio ar feithrin gallu ysgolion i gyflwyno'r cynnig cynyddol hwn a bydd yn anelu at sicrhau, erbyn dechrau tymor yr haf, y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Ni fydd cyflwyno'r cynllun cyffredinol yn effeithio ar y rhai mewn blynyddoedd hŷn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Bydd Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol ar gynlluniau i ymestyn y cynllun ymhellach i flwyddyn academaidd 2023/24 i gyflawni'r ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Ni ddylai plentyn fyth fod yn llwgu yn yr ysgol. Gyda llawer o deuluoedd yn teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymryd camau ymarferol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.
“Mae ein rhaglen newydd o brydau ysgol am ddim i blant cynradd yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym yn ceisio helpu teuluoedd. Mae plant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, felly rydym yn dechrau gyda phrydau ysgol am ddim i ddosbarth Derbyn o fis Medi, ac yna bydd y rhan fwyaf o blant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 hefyd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill nesaf.
“Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol ac ysgolion am gydweithio â ni mewn ffordd adeiladol dros y misoedd diwethaf i’n helpu i wireddu hwn.”
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:
“Dyma ddechrau’r gwaith o weithredu ymyriad sylweddol sy’n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn nawr ac yn y dyfodol – nid yn unig o ran taclo llwgu ymysg plant a thlodi plant, ond mewn perthynas â’n nodau ehangach, sef cynhyrchu bwyd yn lleol a chefnogi economïau lleol.
“Ni ddylai’r un plentyn lwgu, a’r nod gyffredinol o gyrraedd y nifer fwyaf o ddisgyblion â phosibl, cyn gynted â phosibl, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen. O fis Medi, bydd miloedd yn rhagor o blant yn cael prydau ysgol am ddim.
“Bydd yr ymrwymiad uchelgeisiol hwn yn newid bywyd llawer o bobl ac yn help sylweddol i deuluoedd ledled y wlad, ac mae’n dangos sut y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.”
Nodiadau i olygyddion
- The Co-Operation Agreement contains a commitment to “Extend free school meals to all primary school pupils, over the lifetime of this agreement.”
- Plaid Cymru has two Designated Members who jointly agree issues with Welsh Government Ministers, which come under the Agreement. The Designated Members are Siân Gwenllian MS and Cefin Campbell MS. The Co-operation Agreement: designated members | GOV.WALES