English icon English
P1011973 ed-2

Y Dirprwy Weinidog yn canmol effaith yr ail Ŵyl Gofalwyr Ifanc

Deputy Minister praises impact of second Young Carers’ Festival

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi canmol effaith yr ail Ŵyl Gofalwyr Ifanc yng Nghymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad cyntaf y llynedd, mae’r ŵyl eleni wedi denu hyd yn oed mwy o ofalwyr ifanc am dridiau o weithgareddau, hwyl ac ymlacio yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r ŵyl yn rhoi’r cyfle i ofalwyr ifanc ymlacio o’u dyletswyddau o ddydd i ddydd, cwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau profiadau newydd. Mae gwybodaeth hefyd ar gael i’w helpu i fynd i’r afael â’r heriau y gallent eu hwynebu.

Mae’r digwyddiad eleni, a gynhelir ar faes y Sioe Frenhinol, yn dod â 330 o ofalwyr ifanc rhwng 12 ac 16 oed ynghyd o bob rhan o Gymru, ac mae’n cynnwys sgiliau syrcas, cynhyrchu cerddoriaeth, gweithdai ffotograffiaeth, drymio samba a chrefftau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o ofalwyr ifanc yn dod at ei gilydd i fanteisio ar gyfleoedd i ffwrdd o’u cyfrifoldebau gofalu.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth iddynt ac yn caniatáu iddynt ymlacio, rhannu profiadau a chael hwyl.

“Alla’ i ddim pwysleisio digon mor bwysig yw’r hyn maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser gwych ac yn gwybod gymaint rydym yn eu gwerthfawrogi."

Mae’r ŵyl hefyd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, sy’n gwella cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl o bob oed ac yn hyrwyddo eu dealltwriaeth o’u hawliau.

Mae Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc hefyd wedi cael eu dathlu. Mae cardiau adnabod wedi bod ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill 2022 ac fe’u cyd-gynhyrchwyd gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gyda chymorth ariannol o £600,000 gan Lywodraeth Cymru .

Dywedodd Dan Newman o Credu, sy’n trefnu’r Ŵyl Gofalwyr Ifanc:

“Hon fydd ein hail Ŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru i ddathlu llwyddiannau gofalwyr ifanc ledled Cymru. Eleni mae gennym weithgareddau sy’n cynnwys gweithdai dawns, chwaraeon, celf a chrefft, disgo tawel, DJs a pherfformiadau byw, a llawer mwy. Mae Credu yn diolch i chi, Ofalwyr Ifanc Cymru, am eich holl waith caled. Rydym yn gobeithio y byddwch wrth eich bodd yn yr ŵyl eleni."

Ychwanegodd Ffion Scott, gofalwr ifanc sy’n mynychu’r digwyddiad:

“Dw i mor gyffrous i fynd yn ôl i’r ŵyl eleni oherwydd yr holl hwyl ges i'r llynedd. Cefais y cyfle i gwrdd â gofalwyr ifanc o bob cwr o Gymru wyneb yn wyneb a dod i’w hadnabod a gwneud mwy o ffrindiau. Gall pawb ymuno â’r gweithgareddau yn yr ŵyl oherwydd mae rhywbeth yno i bawb gael yr amser gorau.”