English icon English
Bluestone -2

Y Dirprwy Weinidog yn canmol y rhai sy’n creu profiadau gwyliau yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru

Deputy Minister praises holiday ‘Experience Makers’ during Wales Tourism Week

Mae staff sy’n gweithio yn niwydiant twristiaeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol i sicrhau bod ymwelwyr yn cael croeso cynnes Cymreig ac yn dychwelyd adref gydag atgofion gwych o brofiad arbennig, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw er mwyn nodi Wythnos Twristiaeth Cymru.

Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi Wythnos Twristiaeth Cymru, a gynhelir yn flynyddol, ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Bluestone yn Sir Benfro i gyfarfod rhai o’r staff sy’n yn creu profiadau bythgofiadwy ar gyfer ymwelwyr. Cafodd y Dirprwy Weinidog hefyd gipolwg ar ddatblygiadau newydd y parc ar gyfer yr haf.

 Mae parc Bluestone Resort, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, bellach yn cyflogi mwy na 750 o bobl.

Yn 2021, lansiodd y parc Academi Bluestone, sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i ddilyn gyrfaoedd hirdymor yn y maes twristiaeth a lletygarwch. Mae’r academi yn eiriol dros gymysgedd o gyrsiau o dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, sy’n draddodiadol a phwrpasol ac o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chyfleoedd am brofiad gwaith â thâl.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Bluestone, Stuart Davies-Jaynes: 

“Mae ein staff yn hanfodol i lwyddiant y busnes ac rydym yn teimlo’n hynod o angerddol dros fuddsoddi yn y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth a phrofiad arbennig i’n gwesteion.

“Mae Academi Bluestone yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn gallu eu defnyddio i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol ddatblygu eu gyrfaoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi recriwtio pum prentis newydd, ac mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 12 lleoliad ychwanegol.  

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu’r Dirprwy Weinidog yma a’i chyflwyno i rai o’n staff gwych – nhw yw dyfodol diwydiant twristiaeth Sir Benfro.”

Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros faterion yn ymwneud â thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, yn annerch y diwydiant mewn digwyddiad gan Gynghrair Twristiaeth Cymru yn y Senedd er mwyn dathlu diwydiant twristiaeth Cymru. Yn ystod y digwyddiad bydd ffilmiau ac astudiaethau achos a ddatblygwyd fel rhan o ymgyrch #rhaisyncreuprofiadau, sef  ymgyrch sgiliau a recriwtio sy’n cefnogi’r sector drwy godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd gwerthfawr ym maes twristiaeth a lletygarwch, yn cael eu dangos. Mae busnesau o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Bluestone, wedi gweithio ar yr ymgyrch, a gellir gweld yr holl ffilmiau ar wefan Cymu’n Gweithio Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Cymru'n gweithio (llyw.cymru)

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r sector yma yng Nghymru. Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r diwydiant yn gweithio er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymweld â Chymru yn dychwelyd adref gydag atgofion gwych.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth y sector twristiaeth fel rhan o’n heconomi ymwelwyr yng Nghymru fel blaenoriaeth. Mae mwy nag un rhan o ddeg o weithlu Cymru yn gyflogedig mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, a’r gwariant yn y maes yn cyrraedd mwy na £6 biliwn.

“Yn diweddar cefais y pleser o ymweld â pharc Bluestone Resort yn Sir Benfro. O siarad â staff y parc, mae’n amlwg eu bod yn gweld gyrfa lewyrchus i’w hunain yn y sector twristiaeth yn Sir Benfro a Chymru.

“Mae clywed am yr holl gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i bobl sydd yn gweithio yn y maes Twristiaeth a Lletygarwch a siarad ag unigolion sydd wedi datblygu yn eu rolau yn wirioneddol wych – mae’r bobl yma yn chwarae rhan arbennig iawn ym mhrofiad pobl o Gymru.”

Wrth gloi dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Ein nod yw sicrhau bod Cymru’n  gyrchfan o’r radd flaenaf i dwristiaid a byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i gyflawni twf cynaliadwy o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

“Mae’n arbennig o bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ac edrychaf ymlaen at barhau â’r sgwrs gyda’r sector ar sut yn union i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei dathlu fel cyrchfan dwristiaid o safon fyd-eang.”