English icon English

Y genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau ffrwd lanw i'w datblygu yng Nghymru

Next generation of tidal stream turbine blades to be developed in Wales

Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anelu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llif lanw, gyda'r potensial i drawsnewid y diwydiant ynni'r llanw.

Bydd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mrychdyn, yn ymuno â Menter Môn a thîm Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) Cymru i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a pherfformiad cyffredinol llafnau ynni llanw. 

Mae'r prosiect yn un o bump i dderbyn cyfran o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r rhaglen VInnovate, sy'n cael ei rhedeg gan Fenter Vanguard (VI) i hyrwyddo arloesedd cydweithredol ar draws rhanbarthau diwydiannol yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar fentrau bach a chanolig (BBaChau).

Hefyd yn rhan o'r prosiect mae dau gwmni o Galisia – Magallanes Renovables, gwneuthurwr seilwaith ynni adnewyddadwy morol, a D3 Applied Technologies, sefydliad ymchwil sy'n arbenigo ym meysydd aerodynameg a hydrodynameg.

Dywedodd Andy Silcox, prif swyddog technoleg dros dro yn yr AMRC:

"Mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod fel arloeswr o ran sefydlu safleoedd ynni llanw, ac yn ganolfan ar gyfer ymchwil ynni morol arloesol, gan gyfrannu ei gwybodaeth a'i phrofiad helaeth.

"Bydd y cydweithrediad hwn rhwng AMRC Cymru, y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Menter Môn yn creu partneriaeth strategol rhwng rhanbarthau Cymru a Galisia, gan ddod â chyfuniad unigryw o arbenigedd ac arloesedd ym maes ynni adnewyddadwy at ei gilydd.

"Gan gefnogi dylunio a datblygu'r llafnau tyrbin llanw diweddaraf, bydd y prosiect yn gosod y sylfaen ar gyfer cydweithrediad parhaol, gan sbarduno arloesi a phrosiectau yn y dyfodol ym maes ynni adnewyddadwy i gyfrannu at sefyllfa ynni mwy cynaliadwy."

Derbyniodd mwy o brosiectau o Gymru gyllid yn y gyfran ariannu VInnovate 2024 nag unrhyw ranbarth arall.

Mae busnesau bach a chanolig Cymru bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid VInnovate 2025.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Mae sector ymchwil a datblygu Cymru yn enwog yn rhyngwladol, gyda'r byd academaidd, diwydiant a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gymryd camau mawr ym maes arloesi gydag ynni adnewyddadwy yn arbennig.

"Mae'r diwylliant hwn o arloesi wedi ei hyrwyddo a'i arwain gan ein strategaeth Cymu yn Arloesi, gan osod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwyrdd a ffyniannus i Gymru sy'n cael ei yrru gan arloesedd cydweithredol a thechnolegau newydd a all gael effaith gadarnhaol wirioneddol a pharhaol ar bob rhan o'n cymdeithas.

"Rwy'n annog sefydliadau i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan raglenni fel hyn i feddwl ar raddfa fawr, cydweithio yn rhyngwladol a chryfhau ein hecosystem arloesi a'n galluoedd gweithgynhyrchu uwch ymhellach."