English icon English

Y Grant Hanfodion Ysgol yn helpu dros 100,000 o blant yng Nghymru

School Essentials Grant helps over 100,000 children in Wales

Gall teuluoedd ar incwm isel gael hyd at £200 i helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, deunydd ysgrifennu, dillad chwaraeon ac offer.

Gall teuluoedd ar incwm is sy’n derbyn budd-daliadau penodol hawlio £125 y plentyn y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy'n mynd i flwyddyn 7.

Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am y canlynol:

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau

Dylai teuluoedd sy'n elwa ar y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd hefyd wirio eu cymhwystra am gymorth fel y gallant fanteisio ar y Grant Hanfodion Ysgol. Mae'n rhaid i deuluoedd gofrestru eu cymhwystra ar gyfer y grant drwy eu hawdurdod lleol, ni fyddant yn ei gael yn awtomatig. Bydd eu hysgol hefyd yn cael cyllid ychwanegol drwy'r Grant Datblygu Disgyblion, y gallant ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd ar incwm is.

Y llynedd, helpodd y grant 100,055 o blant. Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Anne yn Wrecsam yn gobeithio gweld effaith fawr yn sgil y grant. Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Clare Stephens:

"Gall y Grant Hanfodion Ysgol fod yn achubiaeth i'n dysgwyr. Mae'n helpu i sicrhau bod plant yn dod i'r ysgol gyda'r gwisg a’r offer sydd eu hangen arnynt i ddysgu. Pan fydd teuluoedd yn gwirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth fel hyn, mae'n helpu ysgolion i gael rhagor o gyllid, sy'n cael effaith gadarnhaol iawn ar ein dysgwyr.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn gymwys i wirio gyda'u hawdurdod lleol yn awr a gwneud cais am gymorth."

Mae modd gwneud cais am y grant hyd 31 Mai 2024. Darganfyddwch a yw eich plentyn yn gymwys a hawlio yn awr: Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW. CYMRU

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Wrth i'r misoedd oerach gyrraedd, efallai y bydd llawer o deuluoedd yn gweld bod eu plant angen côt gynnes neu esgidiau gaeaf newydd. Nid yw'r Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer dychwelyd i'r ysgol yn unig. Gallwch ei hawlio yn ddiweddarach yn y flwyddyn os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

"Mae'r grant hwn yn helpu plant i fynychu'r ysgol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'u ffrindiau, ac i oresgyn rhwystrau i gyrhaeddiad. Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwnewch gais yn awr."